Tech Weekender Baner
24.01.25

Penwythnos Sesiynau Meistr Tech

Cyfle gwych i weithio gydag arbenigwyr cefn llwyfan gorau’r diwydiant

Penwythnos sesiynau meistr arbennig - AM DDIM!

Rydym yn falch o rannu bydd Penwythnos Sesiynau Meistr Tech arbennig yma yn Nyth, ar y 15fed a'r 16eg o Chwefror 2025, 10yb-4yh.

Dyma gyfle gwych i gael blas ar gynllunio goleuo, sain a sut i reoli llwyfan - ac mi fydd yn brofiad ymarferol yn cydweithio gydag arbenigwyr i 'techio' darn o theatr gydag actorion proffesiynol.

Mae'r penwythnos yn rhan o'n rhaglen Cwmni Ifanc: Tech sy'n cynnig profiadau arbennig i bobl ifanc gyda diddordeb yn y byd cefn llwyfan.

Mae hwn yn gyfle i unrhyw un rhwng 14 a 25 mlwydd oed, ac mae AM DDIM.

Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno drwy Gymraeg ond rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd a fyddwn yn darparu digon o gefnogaeth i’ch helpu i deimlo’n hyderus.

SUT I GOFRESTRU?
Llenwa'r ffurflen yma ar-lein i gofrestru.

Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin!

EISIAU GWYBOD MWY?
Os hoffet ti gael sgwrs cyn cofrestru, ffonia Elgan Rhys ar 01248 715048 neu cysyllta dros ebost elgan@franwen.com

Cefnogir Cwmni Ifanc Tech gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

YR ARBENIGWYR

Angharad Davies

ANGHARAD MAIR DAVIES
Rheolwr Llwyfan

Mae Angharad wedi rheoli llwyfannau ledled y byd.

Fe ymunodd Angharad á Theatr Genedlaethol Cymru (Theatr Cymru) yn 2011 fel Cynorthwyydd Cynhyrchu, dros yr 12 mlynedd bu'n Ddirprwy Rheolwraig Llwyfan , yn Rheolwraig Llwyfan ag yn Bennaeth Cynhyrchu gyda'r cwmni nes 2023. Mae hi wedi bod yn Rheolwr Cyffredinol ar Ganolfan S4C yr Egin dros y ddwy flynedd diwethaf.

Cerijames

CERI JAMES
Dylunydd Goleuo a Chynllunydd Taflunio


Yn un o ddylunwyr goleuo mwya' profiadol Cymru, mae ei waith diweddar yn cynnwys Skinners (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru), Private Lives (Torch Theatre), a The Fight (Theatr na nÓg).

Mae dyluniadau Ceri hefyd wedi’u cyflwyno’n rhyngwladol, gan gynnwys cynyrchiadau yn Theatr Vaudeville Llundain, Tŷ Opera Sydney, a Sadler’s Wells.

Dan Jones

DAN JONES
Peiriannydd Sain

Arbenigwr sain byw gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Yn ogystal â gweithio ar gynyrchiadau theatr mae Dan wedi gweithio gyda'r cerddorion Sophie Ellis Bextor, Belinda Carlisle, Beverley Knight, Lulu, Midge Ure a Catrin Finch ac mewn digwyddiau byw fel Glastonbury.

Lewis Williams

Lewis Williams
Pennaeth Cynhyrchu

Lewis yw Pennaeth Cynhyrchu Frân Wen. Mae wedi arwain ar rai o sioeau mwya'r cwmni dros y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys y sioe gerdd Branwen:Dadeni, Llyfr Glas Nebo ac yn fwy diweddar, Olion.