Elgan Baner
05.02.24

Penodi Elgan Rhys fel Pennaeth Ymgysylltu

Barod i danio’r genhedlaeth nesaf

Rydym wrth ein bodd cyhoeddi penodiad Elgan Rhys fel ein Pennaeth Ymgysylltu.

Ar ôl mwy na degawd o fyw yng Nghaerdydd, mae’r cyfarwyddwr, gwneuthurwr theatr a dramodydd o Bwllheli yn dychwelyd adref i Ogledd Cymru.

Cyfarwyddodd Elgan ein haddasiad llwyfan o Llyfr Glas Nebo (2020), cyd-ysgrifennodd ein sioe gerdd epig Branwen:Dadeni a fo oedd ein hartist cyswllt rhwng 2017-2019. Elgan hefyd yw’r golygydd creadigol y tu ôl i’r gyfres lyfrau arloesol Y Pump ac roedd yn gyd-sefydlydd Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Pluen Company (2014-21).

“Rydym yn hynod o gyffrous bod Elgan yn ymuno â'n tîm yn barhaol,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

“Bydd ei angerdd, ei egni a’i uchelgais yn gaffaeliad i’r cwmni wrth i ni barhau i herio’r ffordd y mae theatr yn cael ei wneud, gan sicrhau bod cymuned wrth galon popeth a bod drysau Nyth yn fwrlwm o greadigrwydd ac ar agor i gymunedau Gogledd Orllewin Cymru.”

Gyda diddordeb arbennig mewn grymuso lleisiau ein cymunedau, bydd Elgan yn goruchwylio a datblygu ein rhaglen ymgysylltu a chyfranogi efo'n cymunedau a’r sector gelfyddydol.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Elgan: "Dwi'n hynod o falch i ymuno â Frân Wen, cwmni sydd wedi fy ysbrydoli a fy ymbweru i drwy gydol fy ngyrfa. Dwi’n barod i ddathlu, i rymuso ac i gydweithio gyda phobl ifanc a chymunedau’r gogledd orllewin, a rhannu ein straeon gyda’r byd.

“Mewn cyfnod pan mae gymaint o fregusrwydd, dwi’n benderfynol i chwarae rhan yn gwireddu gweledigaeth Frân Wen o danio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid - gyda Nyth, cartref newydd y cwmni, yn ganolbwynt cymunedol."

Dwi'n hynod o falch cael dychwelyd yn ôl adra i'r gogledd - i gael chwarae fy rhan yn sicrhau amrywiaeth o gyfleon creadigol i'r ardal.