Rhaglen21
10.12.21

Rhaglen newydd i ddathlu persbectif pobl ifanc

Dyma gyflwyno ein rhaglen newydd ar gyfer 2022.

Wrth i ni barhau i fyw trwy’r pandemig, byddwn ni’n mynd mewn i’n cymunedau, yn cyd-weithio gyda phartneriaid ac yn teithio ledled y wlad i ddathlu persbectif ein pobl ifanc.

Byddwn yn teithio theatrau Cymru gyda chynhyrchiad newydd sbon ym mis Mawrth a Ebrill. Yn gyfuniad o theatr, rap a phop, mae Ynys Alys yn archwilio pwy yda ni mewn amseroedd o newid mawr. Mae’r gwaith wedi ei ddatblygu gyda’r cerddor Casi Wyn, y rapiwr Lemfreck, y cynhyrchydd sain Alex Miedo a’r dramodydd Gareth Evans-Jones.

Mae’r partneriaethau strategol a chreadigol newydd gyda Ieuenctid Gwynedd a GISDA yn hynod o gyffrous. Bydd y prosiectau Nabod a Dim Byd Fatha Chdi yn rhoi cyfle i ddyrchafu lleisiau pobl ifanc drwy cyd-greu a gwthio newid yn ein cymdeithas.

Bydd sŵn mawr i’w glywed ar draws Gogledd Cymru yn ystod y misoedd felly byddwch yn barod i wrando!

FERSIYNAU DIGIDOL A HYGYRCH

Darllenwch y zine.
Darllenwch y transcript.
Gwrandewch ar y fersiwn sain.