Lansio Clwb Haf Frân Wen
Chwilio am rywbeth i'r plant wneud yr Haf yma?
Wrth ein bodd cyhoeddi ein Clwb Haf cyntaf erioed!
Mis Awst yma rydym yn agor drysau Nyth ar gyfer profiad creadigol cyffrous dros dridiau i bobl ifanc rhwng 7 a 12 oed..
O dan arweiniad Elis Pari a thîm o artistiaid proffesiynol, bydd Clwb Haf Frân Wen yn cynnig cyfle i blant neidio i fyd y ddrama, i archwilio’r grefft o ddyfeisio, ac i feithrin yr hyder i berfformio ar y llwyfan.
Er mwyn darparu ar gyfer gwahanol oedran, bydd y clwb wedi’i rannu’n ddau floc ar wahân. Bydd y sesiynau’n rhedeg yn ddyddiol o 10am tan 3pm, a chyfanswm y gost yw £60 am y tridiau llawn.
Dyddiadau
11 - 13 Awst
7-9 oed
18-20 Awst
10–12 oed
Nodir bod nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin!
Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion a sicrhau lle heddiw trwy ymweld â thudalen Clwb Haf Frân Wen.