Gwyliwch hysbys swyddogol OLION
Gwyliwch hysbyseb swyddogol OLION
Gwyliwch hysbyseb swyddogol trioleg OLION sy’n cyrraedd Bangor fis Medi.
Yn stori sy’n ymestyn dros mil o flynyddoedd, dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.
Bydd trioleg OLION yn cynnig profiad unigryw ar ffurf sioe theatr lwyfan yn RHAN I: ARIANRHOD, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor yn RHAN II: YR ISFYD, a ffilm fer yn RHAN III: Y FAM.
Mae brad a thrais anesboniadwy a storm oruwchnaturiol ddinistriol yn boddi Caer Arianrhod ac yn gorfodi ei phobl i adeiladu cymuned newydd o dan y dŵr.
Mil o flynyddoedd yn ddiweddarach a mae disgynyddion Arianrhod yn ymddangos o’r môr i wynebu pobl y tir am y tro cyntaf. Ond sut mae hyn i gyd yn cysylltu â bywyd cyffredin merch ifanc o Fangor?
- RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
- RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
- RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]
Dyluniwyd yr hysbyseb gan Roughcollie o Gymru, cwmni sydd newydd dderbyn enwebiad am Emmy.
Cyd-ysgrifenwyr Olion Rhan I: Angharad Elen & Sera Moore Williams
Dramatwrg Arweiniol: Angharad Elen
Cyfarwyddwr Creadigol: Gethin Evans
Cyd-gyfarwyddwr Rhan I a Choreograffydd Rhan II: Anthony Matsena
Dramatwrg Gweledol a Chyfarwyddwr Rhan II: Marc Rees
Dylunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Cyfansoddwr: Alex Comana
Cynllunydd System Sain: Sam Jones
Dylunydd Goleuo: Ryan Joseph Stafford
Cyfarwyddwr Cymunedol: Elis Pari
Coregraffydd Cymunedol: Rebecca Wilson
Cynhyrchydd Gweithredol: Jacob Gough (Deryncoch Cyf)
Cynhyrchydd Creadigol: Ceriann Williams
Rheolwyr Cynhyrchu: Bethan Davies & Lewis Williams
Mewn cydweithrediad â GISDA, datblygwyd OLION gyda Lewis Williams, Eva Smith, Isaac Parsons, Keira Bailey-Hughes, Eleanor Parsons, Cefyn Williams, Mabon Williams, Sky Kiera-Louise Davies, Reece Moss Owen, Anya Davin-Easey Sherlock, Tamzin Amy Jones, Catrin Hughes, Lee Southgate, Christie Hallam-Rudd, Vex Vaughan, Shay & Con
Mewn cydweithrediad â Pontio gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.