
O fwrlwm Gŵyl Ymylol Caeredin i feysydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, o lwyfan eiconig Canolfan Mileniwm Cymru i bromenâd Llandudno – Frân Wen yw un o gwmnïau theatr mwyaf uchelgeisiol Cymru sydd wedi bod yn ysbrydoli dychymyg, meddwl a chalon cynulleidfaoedd ifainc ers dros 30 mlynedd.Heddiw, mae’r cwmni yn chwilio am dîm busnes i’w cynorthwyo drwy gyfnod mwyaf cyffrous yn ei hanes –
cartref newydd.Mae safle posib wedi ei adnabod yng Ngogledd Orllewin Cymru a phenseiri wedi eu hapwyntio – y cam nesaf yw creu cynllun datblygu busnes a strategaeth ariannu amlinellol ar gyfer yr adeilad arfaethedig.
Allwch chi helpu?DYDDIAD CAU 21 MEDI 2016