This is the final public testing site of our new website. Let us know what you think!

FRANWEN315
02.09.16

Help drwy gyfnod mwyaf cyffrous

Cartref Fran WenO fwrlwm Gŵyl Ymylol Caeredin i feysydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, o lwyfan eiconig Canolfan Mileniwm Cymru i bromenâd Llandudno – Frân Wen yw un o gwmnïau theatr mwyaf uchelgeisiol Cymru sydd wedi bod yn ysbrydoli dychymyg, meddwl a chalon cynulleidfaoedd ifainc ers dros 30 mlynedd.Heddiw, mae’r cwmni yn chwilio am dîm busnes i’w cynorthwyo drwy gyfnod mwyaf cyffrous yn ei hanes – cartref newydd.Mae safle posib wedi ei adnabod yng Ngogledd Orllewin Cymru a phenseiri wedi eu hapwyntio – y cam nesaf yw creu cynllun datblygu busnes a strategaeth ariannu amlinellol ar gyfer yr adeilad arfaethedig.Allwch chi helpu?DYDDIAD CAU 21 MEDI 2016