Artistiaid Cyswllt
10.06.26

Hanner ffordd i'n Artistiaid Cyswllt Ifanc

Rhannu profiadau 12 mis prysur

Blwyddyn yn ôl, lansiwyd rhaglen Artistiaid Cyswllt Ifanc newydd Frân Wen.

Prosiect dwy flynedd fyddai’n creu gofod saff, cydweithredol i saith artist ifanc ddatblygu eu crefft, i ddysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant, a derbyn cefnogaeth i greu darn newydd o theatr.

A hitha’n hanner ffordd drwy'r daith, mae’r criw wedi bod yn rhannu ychydig am eu profiadau dros y 12 mis prysur diwethaf o sesiynau meistr, teithio rhyngwladol a chreu.

O’r ystafell ymarfer i’r Almaen: Blwyddyn o brofiadau anhygoel

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys taith i Ŵyl Ruhrtriennale yn yr Almaen i brofi theatr ryngwladol, sesiynau meistr yn Nyth gyda chwmnïau nodedig fel Gecko a Punchdrunk, a chyfle unigryw i gymryd rhan mewn cyfnodau Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynyrchiadau newydd Frân Wen.

Gwetihdy Gecko efo Fran Wen
Gweithdy gyda Gecko Theatre


"Nid dim ond gwylio o’r ochrau oedden ni, roedden ni’n rhan weithredol o’r broses," meddai Buddug Roberts, Ymarferydd Creadigol a Sgwennwr.

Cawsom ein croesawu i’r ystafell gan sgrifennwyr a chyfarwyddwyr, ac i rywun sy’n sgwennu, roedd gweld y broses honno yn agos yn amhrisiadwy. Mae cael ymddiriedaeth y cwmni wedi bod yn arbennig iawn.
Buddug Roberts / Ymarferydd Creadigol a Sgwennwr

Roedd yr actor Noel Davies yn teimlo bod y profiad y tu ôl i’r llenni yn agoriad llygad: "Fel actor, dydw i erioed wedi cael mynediad i gyfnodau datblygu cynnar o'r blaen, felly mae wedi fy herio a helpu fi i edrych ar waith creadigol yn wahanol."

Creu gyda'i gilydd

I nifer o’r artistiaid, y budd mwya’ o’r flwyddyn gynta' oedd nid yn unig beth wnaethon nhw ei ddysgu, ond gyda phwy y gwnaethon nhw ddysgu. Mae dod â saith artist o ddisgyblaethau hollol wahanol at ei gilydd - o berfformio a ‘spoken word’ i guradu - wedi tanio sbarc creadigol unigryw.

I Buddug, fe newidiodd sut mae’n gweld ei chrefft yn llwyr: "Roedd yn ryddhad enfawr i mi, fel rhywun sy’n ysgrifennu ac sydd eisiau bod yn awdur, sylweddoli nad oes rhaid i hyn fod yn brofiad unig, gall fod yn un cydweithredol."

Buddug Roberts a Tom Kemp
Buddug Roberts a Tom Kemp


Mae’r actor a chyfarwyddwr symud Tom Kemp yn cytuno, gan nodi sut y gwnaeth yr amgylchedd cydweithredol gyflymu datblygiad pawb: "Fe roddodd ganiatâd i mi gyfarfod a chydweithio efo artistiaid eraill. Roedd hynny’n wych, oherwydd mae pob artist sy’n rhan o’r prosiect yn rhannu uchelgeisiau a diddordebau tebyg."

Gofyn y cwestiynau

Rhan allweddol o’r rhaglen yw annog yr artistiaid i herio eu hunain a’r diwydiant o’u cwmpas. Mae’n gyfle nid yn unig i feithrin sgiliau, ond hefyd i graffu ar bwrpas eu celfyddyd a’r gwaith maent yn ei greu.

Meddai Iza Jem (Perfformiwr, Ymarferydd Creadigol ac Artist Amlddisgyblaethol): "Mae wedi bod yn gyfle i ddatblygu ein hunain fel artistiaid, ond hefyd i gwestiynu ein hunain.

P'un a yw'r gwaith rydym yn ei greu (neu eisiau ei greu) yn siarad mewn gwirionedd gyda’r cynulleidfaoedd rydym yn ceisio eu cyrraedd.
Meddai Iza Jem / Perfformiwr, Ymarferydd Creadigol ac Artist Amlddisgyblaethol

Beth nesaf?

Wrth i’r Artistiaid Cyswllt Ifanc gychwyn ar eu hail flwyddyn, mae’r ffocws yn symud tuag at roi eu sgiliau ar waith. Mae’r grŵp eisoes wedi dechrau cyd-greu cysyniad ar gyfer sioe newydd sbon gyda’i gilydd, gan roi darnau’r jig-so ynghyd o bopeth maent wedi'i ddysgu hyd yma.

Syniad Pitsh
Yr Aelodau Cyswllt yn pitshio syniad


Yn y pen draw, mae blwyddyn gyntaf y rhaglen wedi rhoi’r sgiliau pwysicaf oll i’r saith artist yma: hyder. Fel y dywed Tom Kemp:

"Ar lefel bersonol, mae rhoi hwb i fy hyder fel artist ac wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i'n gallu gwneud hyn."

Allwn ni ddim aros ii weld beth fyddan nhw'n ei wneud nesaf!