Baner Almaen
13.10.25

Dyddiadur: Aelodau Cyswllt yn yr Almaen

O ofn dystopaidd i undod ddi-iaith, taith yr Artistiaid Cyswllt yn yr Almaen

O ofn dystopaidd i undod ddi-iaith, antur pwerus i'n Artistiaid Cyswllt Ifanc yn yr Almaen

Yn ddiweddar aeth ein Hartistiaid Cyswllt Ifanc i Ŵyl Ruhrtriennale, un o wyliau theatr mwyaf cyffrous Ewrop, yn Bochum, yr Almaen .

Dyma ddyddiadur Buddug Roberts o'u taith.

____________________________________________________

Diwrnod 1 : 18.09.25

Bore o deithio: fflio, dreifio, sbio. Mwydro mymryn a ma’n teimlo mor braf bod mor gyfforddus, mor sydyn. Cylch o bobl cartrefol, creadigol. 🌞

🪐 Gen Z Don’t Cry (premier byd)

Darn dwys. Darn heriol, amlsynhwyrol a darn oedd yn mynnu boni’n edrych i ryw fath o ddyfodol. Dyfodol ’dani wrthi’n creu - boed ni’n ymwybodol neu beidio. Bygythiol weithia’, a difyr gweld o ran defnydd geiria’ bod dim cyfieithu ar brydia’, oherwydd… doedd dim angen cyfieithiad i’r ofn ac angerdd oedd y bobl ifanc yn ei deimlo. A teimlo oedda’ ni, drwy’r clustffona’ yn cymryd pob anadl o fanylder efo’n gilydd. Parododrwydd i wneud i’w cynulleidfa feddwl. Meddwl dros eu hunain. Eu gwneud nhw’n fwriadol anghyfforddus, ar biga’n meddwl pryd mae’r rhywbeth ar ddod.

Ma’n braf peidio cael gwybod bob dim weithia’, ddyliwn ni gofio bod cael ein gorfodi i feddwl yn beth da.

Diwrnod 2 : 19.09.20

🖼️ Amgueddfa Folkwang, Essen

Pont / arc / jenga o hen deledu a darnau o hen scraps metel, yn dal y sgwraia’ statig.

Dwi’n syth yn ôl yn arddull dystopaidd, ôl-apocolyptaidd Gen Z Don’t Cry, a sut bo’r celfyddydau’n blethwaith sy’n menthyg ac efelychu wrth drio gwneud synnwyr o’r byd ’ma.

Rhyfedd meddwl am y darnau yma heb y geiriau yn y gornel yn cynnig cyd-destun. Celf yn bod yn gelf, ar ben ei hun, a wedyn y geiriau? Geiriau du a gwyn mewn siâp bocsys, yn be? Egluro? Gor-egluro? Rhoi i ni’r pwy a’r be’ a’r pam? Difyr meddwl - oes angan?

🌍 Guernica Guernica! (premier byd)

WAW! ’Swni wirioneddol yn gallu ’sgwennu traethawd estynedig am y cynhyrchiad arbennig yma - ond er hwylustod y blog nai beidio… (neu nai drio, peidio)

O’r cychwyn cyntaf o’ni wedi fy hudo gan mod i methu’n lan a penderfynu ar be’ oni’n edrych, pobl ’ta paentiad? Pobl ’ta props?

  • Pobl yn gwylio pobl yn gwylio pobl, a pŵer hynny, a bod rhaid i rhywun yn rhywle - arwain.

  • Diniweidrwydd piniata pen-blwydd a’r balŵns yn sydyn iawn troi’n sinistr.

  • Edrych ar bobl ‘yr ochr arall’, y bobl o’n blaenau, a sut ein bod ar brydiau’n llythrennol gweld rhwybeth nad oedden nhw ddim…

Doedd dim yn ofni distawrwydd, ’na lletchwithdod chwaith.

Diwrnod 3: 20.09.25

😭😭😭 The Sticky Dance

Rhaglennu, trefnu ac amseru ✨perffaith✨

Cylch, gofod a gosod ffiniau.

Pa mor lwcus ydym ni bod iaith gyffredin i’w gael mewn symud a chyswllt llygaid.

Be’ sy’n digwydd pan ti’n rhoi pobl mewn cylch fel amser stori’r cynradd?

Mae pawb yn blant eto 💛

Be’ sy’n digwydd pan mae pawb yn cael bod yn blant eto?

’Dani’n chwara’, a drw’ chwara’ fedrwn ni adeiladu bydoedd i lewni’r byd sydd yma’n barod.

Miwsig + Rave

Eto riw undod di-iaith sydd mewn dawns, ’fyd.

Gwneud ffrindiau ar lawr concrit fel riw iard ysgol rhydd, yn coreograffu’n gilydd.

⭕️ a’r cylch sydd yma eto, yn lle gymaint brafiach eto fyth, sgwyddau’n llac a llygaid yn gwenu’n llawn ar y lleill.

Diwrnod 4: 21.09.25

Doeddwn i ’rioed wedi ystyried, y grefft ofalgar o raglennu.

Roedd y drefn gelfyddyd i’w edmygu, sy’n beth od i ddeud am ‘drefn’.

O’r ofn a’r pellter Black Mirror-aidd yn Gen Z Don’t Cry at yr undod agos atat oedd yn Sticky Dance. Y daith drwy’r rwan a’r hyn a fu, hanes a heddiw drwy’r oriel a heriau Guernica Guernica yn ein dawel harwain at gyd-ddawnsio drwy’r nos.

Ma’ pobl ar eu ⚡️gorau⚡️ efo’i ⚡️gilydd⚡️.

Wedi'i ariannu gan Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru.