Artisitiaid Baner
17.09.25

Cyfarfod yr Artistiaid Cyswllt Ifanc

Cyhoeddi'r saith artist ifanc fydd yn ymuno â ni am flwyddyn

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r saith artist talentog fydd yn ymuno â ni am y flwyddyn nesaf fel Artistiaid Cyswllt Ifanc.

Yn dilyn galwad agored yn gynharach eleni, rydym yn croesawu:

  • Noel Davies
  • Hafwen Hibbard
  • Iza Jem
  • Mali Grigg
  • Tom Kemp
  • Aur Bleddyn
  • Buddug Roberts

Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr artistiaid ifanc yn archwilio, herio a chyfrannu at ein cynlluniau creadigol a strategol wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth fel cwmni theatr aml-ddisgyblaethol i ‘ail-ddiffinio’r dyfodol, un sioe ar y tro’.

Auf Wiedersehen

Bore fory byddant yn cychwyn ar eu taith i ŵyl Ruhrtriennale yn Yr Almaen, un o wyliau theatr mwyaf cyffrous Ewrop wedi ei guradu gan y cyfarwyddwr theatr enowg Ivo van Hove.

Yno, byddant yn cael eu trochi mewn syniadau newydd, lleisiau ffres a safbwyntiau rhyngwladol - profiadau y byddant yn eu dwyn adref i Gymru i ysbrydoli ein gwaith ni a’u hymarfer creadigol eu hunain.Allwn ni ddim aros i weld beth fyddan nhw’n ei ddarganfod a’i rannu gyda ni ar hyd y daith.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am ddiweddariadau, straeon a hanesion o’r Almaen a thu hwnt.

Noel Davies