Gwyl Adda Fest Baner
06.09.24

Gŵyl Adda Fest

Gŵyl gymunedol yn Hirael, Bangor

Poster Gwyl Adda Fest

Bydd gŵyl gymunedol newydd, rhad ac am ddim, yn cael ei chynnal ym Mangor mis yma, gan ddod â pherfformiadau byw, gweithdai creadigol, stondinau bwyd a diod a llawer mwy i’r ddinas.

Wedi'i drefnu gynno' ni gyda chymorth partneriaid, mae Gŵyl Adda Fest yn ddigwyddiad awyr agored, sy’n cael ei gynnal ym Mangor ar 28 Medi.

Beth sydd ymlaen?

Rhaglen y dydd

Dilynwch y linc uwchben i ddarganfod digwyddiadau dydd Sadwrn 28 Medi!

Dyma blas o'r lein-up:

  • Crinc
  • Francis Rees
  • Band Pres Llareggub
  • Sister Wives
  • Batala Bangor
  • Roughion DJ
  • Barddoniaeth, trafodaethau and amser stori
  • Gweithgareddau celf
Nod yr ŵyl yw dathlu'r celfyddydau, diwylliant, iaith a cherddoriaeth, gan ddod â theuluoedd o bob oed at ei gilydd i fwynhau cyfres o berfformiadau cyffrous.

Disgwyliwch yr annisgwyl

Ond nid fyddai'n ddigwyddiad Frân Wen heb dipyn bach o theatr fyddai hi!

Bydd yr ŵyl hefyd yn set i ail ran ein cynhyrchiad diweddaraf, Olion. Yn seiliedig ar stori Arianrhod o’r Mabinogi, mae Olion yn rhoi gwedd fodern i’r chwedl.

Help llaw

'Da ni'n chwilio am wirfoddolwyr i roi help llaw yn yr ŵyl. Allwch chi helpu? Mwy o fanylion: franwen.com/content/files/OLION-Gwirfoddolwyr.pdf