Pryderi Ap Rhisart (Cadeirydd Bwrdd Frân Wen), John Wilson (Grosvenor Construction), a Gethin Evans (Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen).
Gwaith adeiladu Nyth yn cychwyn
Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn ar yr hwb celfyddydol, diwylliannol a chymunedol newydd i bobl ifanc fydd yn gartref newydd i ni ym Mangor.
Rydym yn trawsnewid yr hen Eglwys Santes Fair, sy’n adeilad rhestredig gradd II, ar Ffordd Garth fel rhan o brosiect gwerth £4m.
Mae’r datblygiad yn trawnewid yr adeilad yn hwb cwbl hygyrch i bawb fydd yn cynnwys gofod i greu, ymarfer a pherfformio ar raddfa fechan, stiwdio tanddaearol a nifer o ofodau creadigol llai ar gyfer cynnal preswyliadau i artistiaid.
Bydd y gofod awyr agored helaeth yn ychwanegiad gwerthfawr i’r lleoedd gwyrdd sydd ar gael yn y ddinas ac yn cynnwys gofodau perfformio amlbwrpas a gardd gymunedol.
CYFFRO YN CYCHWYN
Meddai Gethin Evans, ein Cyfarwyddwr Artistig:
“Rydyn ni mor gyffrous i weld y gwaith yn cychwyn ar safle ein cartref newydd, Nyth. Bydd y gofod yma yn hwb i bobl ifanc, artistiaid a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd, i gysylltu, herio, creu a rhannu trwy’r celfyddydau.”
Ychwanegodd Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen:
“Mae cydweithio gyda phartneriaid artistig a strategol yn ganolog i weledigaeth Nyth, gyda phwyslais ar hyrwyddo profiadau celfyddydol o safon uchel i ysgogi newid cymdeithasol cadarnhaol.
“Cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial sy’n ein gyrru ni, ac mae rhoi perchnogaeth iddyn nhw dros ddatblygiad y prosiect wedi arwain at adeilad ysbrydoledig o ran dyluniad a rhaglen uchelgeisiol a blaengar o weithgaredd creadigol ar gyfer y dyfodol.”
CEFNOGAETH GAN BARTNERIAID
Mae’r prosiect wedi derbyn £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £300,000 gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir, £250,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol, £200,000 gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston a £172,000 gan Gronfa Treftadaeth Loteri.
Mae cefnogaeth ychwanegol wedi ei sicrhau gan Sefydliad Pennant, Cist Gwynedd, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, Ymddiriedolaeth Oakdale ac Ymddiriedolaeth Laspen.
Rydyn ni mor gyffrous i weld y gwaith yn cychwyn ar safle ein cartref newydd, Nyth. Bydd y gofod yma yn hwb i bobl ifanc, artistiaid a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd, i gysylltu, herio, creu a rhannu trwy’r celfyddydau.Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen
CWBLHAU YN 2022
Disgwylir i’r datblygiad, sydd dan arweiniad gan arbenigwyr adeiladu treftadaeth Grosvenor Ltd, gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y ganolfan newydd yn dod yn ganolbwynt creadigol lle gall pobl ifanc ac artistiaid ddatblygu eu syniadau a chreu theatr eithriadol a pherthnasol sy’n dathlu Gogledd Orllewin Cymru gyda gweddill y wlad a thu hwnt.
Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae’n gyffrous i weld y gwaith ar y gofod newydd hwn yn cychwyn gyda chefnogaeth gref gan amryw o bartneriaid cyllido. Mae Frân Wen yn un o gonglfeini theatr Cymru ers dros dri degawd ac yn gwmni sydd wedi bod yn ysgogi cynulleidfaoedd ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn theatr. Bydd Nyth yn cryfhau cysylltiadau’r cwmni â chymunedau ledled Gogledd Cymru, yn anadlu bywyd newydd i’r hen adeilad hwn, ac yn darparu cyfleoedd newydd i actorion, awduron a gweithwyr cefn llwyfan fydd yn ein syfrdanu yn y dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James:
“Rwy’n falch iawn o weld arian o’n cronfa Trawsnewid Trefi yn cael ei fuddsoddi’n dda. Bydd y ganolfan celfyddydau, diwylliant a chymunedol newydd yma ar gyfer pobl ifanc yn rhoi hwb i wreiddiau cyfoethog Bangor yn y celfyddydau ac yn hybu llesiant y gymuned.
“Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £136 miliwn i gefnogi adfywiad economaidd a chymdeithasol canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan adeiladu ar y buddsoddiad presennol o £800 miliwn mewn dros 50 o’n trefi er 2014. Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd, adnewyddu eiddo gwag, cynyddu gofodau gweithio a byw hyblyg, a darparu mynediad at wasanaethau. Rydym yn buddsoddi’n helaeth i sicrhau bod ein trefi nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu, ac rwyf am i awdurdodau lleol fod yn feiddgar fel Bangor wrth ailfywiogi ein hadeiladau harddaf i fannau lle mae pobl eisiau treulio eu hamser. ”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a’r Gymuned:
“Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi prosiect Nyth a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar Ganol Dinas Bangor. Mae’r Stryd Fawr ar draws y sir yn wynebu heriau cynyddol ac rydym yn hyderus y bydd y buddsoddiad hwn a’r gweithgaredd a fydd yn y ganolfan newydd yn cyfrannu at adfywio Canol Dinas Bangor.”
Lluniau gan Kristina Banholzer.
Llun 1: Aelodau o Gwmni Ifanc Frân Wen gyda John Wilson o Grosvenor Construction.
Llun 2: Pryderi Ap Rhisart (Cadeirydd Bwrdd Frân Wen, John Wilson (Grosvenor Construction) a Gethin Evans (Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen).
Mae Frân Wen yn un o gonglfeini theatr Cymru ers dros dri degawd ac yn gwmni sydd wedi bod yn ysgogi cynulleidfaoedd ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn theatr.Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru