Cast Cymunedol
06.06.24

Galwad agored am gast cymunedol

Cast cymunedol Olion

Awchu i berfformio?

Barod i gael hwyl a herio dy hun?

Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o ddigwyddiad theatrig unigryw ym Mangor eleni.

Da' ni’n clyweld am 30 perfformiwr i ymuno â chast cymunedol sioe nesaf Frân Wen, Olion.

Dan ni’n chwilio am berfformwyr 16 oed ac i fyny, a does dim angen profiad perfformio blaenorol, dim ond tân ac awydd i gydweithio gyda pherfformwyr eraill a thîm artistig arbennig y sioe!

Dyddiadau Clyweliadau

  • Dydd Mercher, 19 Mehefin 6pm - 7.30pm

Lleoliad Clyweliadau

Nyth, Garth Road, Bangor, LL57 2RW

Eisiau clyweliad?

Clicia ar y linc yma i gofrestru a dethol dyddiad ar gyfer dy glyweliad.

Wele isod dyddiadau allweddol ar gyfer y cast cymunedol. Mae gofyn i’r cast cymunedol ymrwymo i’r dyddiadau hyn, gyda ychydig iawn o hyblygrwydd yn bosib yn ddibynnol ar amgylchiadau.

Dyddiadau allweddol

Gweithdai Cychwynnol

  • Dydd Mercher, 26ain Mehefin 6pm - 8pm
  • Dydd Mercher, 3ydd Gorffennaf 6pm - 8pm
  • Dydd Mercher, 10fed Gorffennaf 6pm - 8pm
  • Dydd Iau, 11eg Gorffennaf 6pm - 8pm

Ymarferion

Bydd ymarferion ar ddyddiadau amrywiol yn mis Medi, gyda rhai sesiynau gyda’r nos a rhai ar benwythnosau. Union dyddiadau i’w cadarnhau.

Perfformiad Gwisg

  • Dydd Gwener, Medi 27ain

Perfformiad Cyhoeddus

  • Dydd Sadwrn, Medi 28ain

Os ydych chi awydd sgwrs bellach am yr alwad agored neu’r dyddiadau uchod, cysylltwch gyda elgan@franwen.com

Dan ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y cyfle hwn. Wrth gofrestru, bydd gennyt ti gyfle i nodi unrhyw anghenion mynediad. Sioe Gymraeg yw hon, ac rydym yn croesawu siaradwyr newydd a dysgwyr.

Bydd y sioe yn digwydd o dan do ac yn yr awyr agored. Ein nod yw meithrin amgylchedd gynhwysol lle mae ystod o brofiadau a safbwyntiau yn cael eu dathlu a’u gwerthfawrogi.

Siaradwyr newydd neu ddi-gymraeg

Diddordeb yn ein cast cymunedol ond ddim yn hyderus gyda'ch Cymraeg?

Bydd Menter Iaith Bangor yn cynnig sesiynau cefnogi i siaradwyr newydd neu ddi-gymraeg yn ystod y cyfnod ymarfer.

Chwedl gyfoes mewn tair rhan
OLION

O grombil y Mabinogi, dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.

Mwy

Mae Frân Wen yn derbyn cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei raglen.

Mae Olion, sy'n rhaglen 15 mis o weithgareddau hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd. Mae’r prosiect wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.