Calon Baner
05.06.26

Galwad artistiaid Stiwdio Lles

Cyfle arbennig i ‘sgwennwr a dawnsiwr

Rydyn ni'n chwilio am ddau artist ar gyfer Y Stiwdio Lles 2026, ein prosiect llesiant drwy gelf gyda Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.

Bydd y sgwennwr a'r dawnsiwr yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr celf, iechyd a llesiant cyn darparu sesiynau i oedolion ifanc 18-30 oed.

Bydd y cyfnod o hyfforddiant yn digwydd Nyth, cartref Frân Wen ym Mangor, ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2026
  • Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2026
  • Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2026
  • Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2026

Yn dilyn hyn, bydd yr artistiaid yn mynd ati i ddarparu sesiynau galw heibio a phenwythnosau dwys i oedolion ifanc, gan ddefnyddio’r celfyddydau fel ymyriad ataliol ar gyfer heriau gorbryder, diffyg hyder, anhawster cymdeithasu ac unigrwydd.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng mis Hydref 2026 a Mehefin 2027 yn unol ag anghenion y prosiect. Yn ogystal, bydd sesiynau cymunedolyn cael eu rhaglennu ar gyfer Awst/Medi 2026.

Stiwdio Lles Fran Wen

Telerau

Telir ffi dyddiol o £180 (i gynnwys treuliau) i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a gweithredu’r cynllun.

Sut i ymgeisio

Os oes diddordeb gennych bod yn rhan o’r cynllun yr oll sydd angen ei wneud yw ebostio ffionstrong@gwynedd.llyw.cymru gyda'r manylion canlynol erbyn 24 Mehefin 2026:

  • CV cyfredol
  • Llythyr neu fideo byr dim mwy na 5 munud o hyd yn amlinellu pam fod y gwaith Celf, Iechyd a Llesiant o ddiddordeb a beth allwch chi ei gynnig i’r prosiect

Manylion pellach

Cysylltwch â Ffion os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad ac angen cefnogaeth er mwyn ymgeisio am y rôl.

Bydd cyfweliadau yn digwydd yn wythnos 29 Mehefin 2026

I wybod mwy am y prosiect peilot a gynhaliwyd yn 2025: franwen.com/projects/stiwdio-lles

Prosiect gyda chefnogaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor, Mantell Gwynedd, Coleg Menai, Hwb Dinas Bangor ac Meddygfa Bodnant Bangor.

Cefnogir y prosiect gan Rhaglen Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru.