Galwad Agored i Berfformwyr a Dawnswyr Ifanc
Rhwng 16-25 oed? Caru perfformio?
Dan ni’n chwilio am 10 perfformiwr a/neu dawnsiwr ifanc hyderus i ymuno â Cwmni Ifanc Frân Wen ar gynhyrchiad cyffrous ac unigryw o’r enw Rhuo’r Rhamant (teitl dros-dro).
Dyma gyfle i berfformio ar draws sawl lleoliad, gan gynnwys perfformiad byw yn Llandudno, Bryn Celli Du a gorffen yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain. Bydd hefyd cyfle i berfformio ar gyfer ffilm ac elfennau digidol ar-lein. Mae’r cyfle yma yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim a bydd y prosiect yn talu’r holl gostau teithio a llety.
Mae hwn yn gyfle i berfformwyr a dawnswyr 16-25 oed, a does dim angen profiad perfformio blaenorol, dim ond tân ac awydd i gydweithio gyda phobl ifanc eraill a thîm artistig arbennig!
Dyddiadau Allweddol:
Clicia yma i lawrlwytho’r dyddiadau allweddol. Mae gofyn ymrwymo i’r dyddiadau hyn, gyda ychydig iawn o hyblygrwydd yn bosib yn ddibynnol ar amgylchiadau.
Dyddiad Clyweliad:
Dydd Mercher, 16 Ebrill 2025 rhwng 2.30pm - 3.30pm
Dydd Mawrth 22 Ebrill rhwng 1pm - 2pm
Lleoliad Clyweliad:
Nyth, Garth Road, Bangor, LL57 2RW
Eisiau clyweliad?
Clicia ar y linc yma i gofrestru ar gyfer clyweliad.
Methu dod i’r clyweliad ond eisiau cael dy ystyried? Cysyllta hefo Elgan dros e-bost elgan@franwen.com neu ffonia ar 01248 715048.
Dan ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y cyfle hwn. Wrth gofrestru, bydd gennyt ti gyfle i nodi unrhyw anghenion mynediad. Mae Frân Wen yn gweithredu yn y Gymraeg, ac rydym yn croesawu siaradwyr newydd a dysgwyr. Nid yw iaith yn rwystr ar y sioe hon. Bydd y sioe yn digwydd yn bennaf yn yr awyr agored. Ein nod yw meithrin amgylchedd gynhwysol lle mae ystod o brofiadau a safbwyntiau yn cael eu dathlu a’u gwerthfawrogi.
Mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i gyd-gynhyrchu gyda Oriel Mostyn a The Triumph of Art. Mae The Triumph of Art yn brosiect perfformiadol cenedlaethol gan yr artist Jeremy Deller sy’n cloi dathliadau Daucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol eleni.