Baner Unnos
17.10.25

Galwad agored i Theatr Unnos

Dewch i greu rhywbeth bythgofiadwy. Mewn 24 awr!

Bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach… da' ni’n atgyfodi Theatr Unnos!

Rydym yn chwilio am 12 o artistiaid sy'n byw yng Ngogledd Orllewin Cymru i gymryd rhan yn yr her gyffrous mis Tachwedd yma.

Dyma’ch lle chi i chwarae - boed yn ysgrifennwr, cerddor, cynllunydd, perfformiwr, dawnsiwr.

Mae Theatr Unnos ynglŷn â’ch dathlu chi - yr artistiaid gwych sydd ar ein stepen ddrws.

Beth yw Theatr Unnos?

Dychmygwch gyfuniad o bŵt camp creadigol a 'sleepover' artistig.

Mae Theatr Unnos yn dod â chrewyr theatr, artistiaid a pherfformwyr at ei gilydd i greu darn o waith gonest a greddfol. Dim paratoi. Dim cynllun. Dim ond 24 awr!

Y tro diwethaf i ni gynnal Theatr Unnos oedd yn ôl yn 2016: BBC linc

Theatr Unnos Fran Wen 2016

Y rheolau?

Byddwn yn tynnu enwau o het i ffurfio 3 thîm, a byddwch yn derbyn bwndel o heriau annisgwyl:

  • Dyfyniad
  • Llinell
  • Gwrthrych
  • Ysgogiad

Ac wedyn? Creu rhywbeth. Yn sydyn.

Bydd y diweddglo yn cynnwys rhannu’ch darn 10–15 munud o hyd gyda chynulleidfa mewn noson braf, egnïol ond ymlaciedig yn Nyth.

Y rhannu

Bydd y rhannau’n cael eu rhannu a’u dathlu fel digwyddiad Sgratsh Nyth.

Dim beirniadu. Dim ond mwynhau.

Mae Theatr Unnos yn mynd â syniadau yn ôl at y gwreiddyn - y sbarc, yr eiliad ryfedd a rhyfeddol cyn i’r cynllun ddechrau. Mewn byd o 'deadlines' a ffurflenni grant, dyma gyfle i fentro a bwrw iddi.

Manylion

Dyddiadau ac amseroedd: 1pm Dydd Iau 13 Tachwedd – 10pm Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025

Lleoliad: Nyth, Bangor

Tâl: £350 + phrydau blasus!

Sut i ymgeisio

I ymgeisio i gymryd rhan, cysylltwch â ni ar post@franwen.com erbyn 28 Hydref 2025, yn nodi mewn unrhyw ffurf greadigol beth sy’n eich cyffroi am y cyfle hwn.

Mae’r cyfle yn agored i 12 o artistiaid sy’n byw yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Bydd y prosiect yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg newydd, gan gynnig cefnogaeth lle bo’r angen.

Dewch i greu rhywbeth bythgofiadwy. Gyda’n gilydd.

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Diwyllesiant Cyngor Gwynedd (Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU)

Ty unnos at Maen Dewi geograph org uk 1425027

Unnos?

Roedd tŷ unnos (tŷ un nos) yn hen draddodiad Cymreig lle gallai rhywun hawlio darn o dir comin drwy adeiladu tŷ bach arno dros nos. Os oedd y tŷ yn sefyll erbyn amser codiad haul, dywedid fod y tir yn dod yn eiddo iddyn nhw.

Llun: Adeilad tŷ unnos wedi difrodi (ffynhonnell: Wikipedia)

Mwy o wybodaeth am draddodiad Unnos