Galwad agored am ddawnswyr proffesiynol
Clyweliad ar gyfer cynhyrchiad unigryw yn yr Hydref
Dewch i fod yn rhan o gynhyrchiad cyffrous yng Ngogledd Cymru!
Ymunwch â Fran Wen wrth i ni ddod â stori Arianrhod yn fyw drwy chwedl gyfoes mewn tair rhan, cynhyrchiad wedi'i gyfarwyddo gan Gethin Evans ac Anthony Matsena ac a grëwyd gan dîm ehangach o artistiaid anhygoel.
Y prosiect:
Trioleg arwrol sy'n datblygu drwy sioe theatr fyw, digwyddiad awyr agored ar hyd strydoedd Bangor, a ffilm fer.
Mae’r ail-ddehongliad cyfoes yma o un o gymeriadau chwedlonol y Mabinogi yn argoeli i fod yn gyfuniad cyffrous o stori, dawns a cherddoriaeth.
Rydyn ni'n chwilio am:
- Angerdd am adrodd straeon drwy theatr a symudiad
- Croesewir unrhyw arddull a chefndir dawns
Mae hwn yn gyfle â thâl (cyfradd tâl ITC).
Anfonwch eich CV, ‘showreel’ neu fideo byrfyfyr at ceriann@franwen.com erbyn dydd Iau 6 Mehefin - a dewch i fod yn rhan o’r cynhyrchiad unigryw a grymus yma.
Dyddiadau'r cynhyrchiad
26 Awst – 28 Medi (rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau)
Dyddiadau a lleoliadau clyweliadau:
- Dydd Sadwrn, 8 Mehefin, Caerdydd (12pm - 4pm)
- Dydd Sul, 9 Mehefin, Llundain (12pm - 4pm)
- Dydd Iau, 13 Mehefin, Nyth, Bangor (6pm - 9pm)
(Lleoliadau Caerdydd + Llundain i'w cadarnhau)
Angen mwy o wybodaeth? Cysylltwch â ceriann@franwen.com
DYDDIAD CAU: 5pm DYDD IAU 6 MEHEFIN 2024