Website Baner Template
20.03.23

Galwad agored am berfformwyr ifanc

Bydda’n rhan o ddigwyddiad hollol arbennig.

‘Da ni’n chwilio am 15 person ifanc rhwng 16 a 25 oed i berfformio mewn digwyddiad hollol newydd ac unigryw ym Maes B eleni.

Mae Popeth ar y Ddaear yn gynhyrchiad arbennig ac uchelgeisiol fydd yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn perfformio o unrhyw fath - actio, dawnsio, canu, cerddoriaeth - paid â methu’r cyfle am ddim gwych yma i gyd-weithio gyda rhai o artistiaid mwya’ blaenllaw Cymru.

p.s. nawn ni dalu am dy docyn Maes B di!

MANYLION

Oed:16-25 oed

Lleoliad: Bangor a Boduan (Pen Llŷn)

Y gofyn: Perfformwyr i greu ensemble corfforol / symud / cerddorol / lleisiol fel rhan o’r cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear

Dyddiad cau: 17 Ebrill 2023

Ymrwymiad:

  • Gweithio gyda chyfarwyddwyr, cyfarwyddwr symud + cerddorion + actorion dros gyfres o benwythnosau ym Mangor
    (6/7 Mai, 27/28 Mai, 24/25 Mehefin a 8/9 Gorffennaf - union amseroedd i’w cadarnhau)

  • Ymarferion ym Mangor
    (24/07/23 - 06/08/23 - union amseroedd i’w cadarnhau)

  • Ymarferion yn Maes B
    (07/08/23 - 11/08/23 - union amseroedd i’w cadarnhau)

PROSES YMGEISIO

Ni fyddwn yn cynnal clyweliadau unigol ond yn hytrach yn gwahodd pawb sydd â diddordeb i weithdy creadigol gyda’r artistiaid arweiniol yn NYTH, Bangor rhwng 2pm a 5pm ar 23 Ebrill 2023.

I ddatgan diddordeb mewn mynychu, cofrestrwch drwy gwblhau’r ffurflen yma.

Os oes gennych unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag gwneud cais yna cysylltwch â olwen@franwen.com i drafod sut y gallwn eich cefnogi.

Gallwn gefnogi costau teithio neu gynnig ad-daliad trafnidiaeth cyhoeddus i’r ymarferion.

Methu ymrwymo i’r holl ddyddiadau uchod, ond awydd bod yn rhan? Byddwn yn chwilio am 100 person ifanc arall i ymuno yn y prosiect ar gyfer wythnos ‘steddfod yn unig! Gwyliwch y gofod….

Mae Popeth ar y Ddaear yn gyd-gynhyrchiad gan Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol.

TÎM CREADIGOL

Cyfarwyddwr: Nico Dafydd
Dramodwyr: Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly
Cyfansoddwr: Osian Huw Williams
Dramatwrg: Steffan Donnelly
Coreograffi: Matthew Gough
Cynllunydd Sain: Sam Jones
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Gwyn Eiddior
Cynlunydd Goleuo: Ceri James