Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!

Banner EP Ynys Alys

EP Ynys Alys

10.03.22

Ffrwd newydd i Ynys Alys

Mae Ynys Alys ar fin dod yn gynhyrchiad llwyfan ac EP.

Mae’r cerddorion tu ôl i’r cynhyrchiad theatr Ynys Alys gan Frân Wen wedi cyhoeddi y bydd EP o ganeuon y sioe yn cael eu rhyddhau (11/03).

Mae’r EP pedwar trac wedi ei greu gan y rapiwr Lemarl Freckleton, yr artist pop Casi Wyn a’r electro-gynhyrchydd Alexander Comana.

Mae Ynys Alys yn gynhyrchiad theatr sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth. Mae'n teithio theatrau Cymru o 17 Mawrth tan 9 Ebrill.

Bydd yr EP yn cael ei ryddhau ar yr holl platfforms ar ddydd Gwener 11 Mawrth.