Baner 48awr
10.01.24

Ffenest 48 awr i ymuno CIFW

Ar agor nos Wener yma.

O strydoedd Fangor i nos Wener ym Maes B, o lwyfan i sgrin, nid cwmni theatr ieuenctid arferol yw CIFW.

CIFW 1 + 2

Mae 'na ddau grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol ar nos Lun. Mae CIFW 1 (blynyddoedd 8 - 10) yn cyfarfod 5pm - 6.30pm a CIFW 2 (blynyddoedd 11 - 13/16-18 oed) rhwng 7pm - 9pm.

FFENEST 48 AWR

Bydd y ffenestr recriwtio ar agor 7pm nos Wener, 12 Ionawr 2024 ac yn cau 7pm nos Sul 14 Ionawr 2024.

BE’ FYDDAI’N NEUD?

Dan arweiniad artistiaid proffesiynol, mi fyddi di’n archwilio straeon, creu sioeau, datblygu syniadau newydd a meithrin sgiliau creu theatr.

MWY NA JEST PERFFORMIO

Mae creu theatr yn gymaint mwy nag actorion ar lwyfan. Ella fod gen ti ddiddordeb mewn:

  • Goleuo
  • Sain
  • Dylunio
  • 'Sgwennu
  • Cyfansoddi

‘Da ni bendant eisiau clywed gen ti!

Mi fyddi di'n cael helpu ar gynyrchiadau proffesiynol y cwmni, cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau meistr, mynd ar dripiau i weld cynyrchiadau gorau’r byd a dylanwadu ar bob elfen o waith Frân Wen drwy gael dy gynrychioli ar ein Panel Ieuenctid a’n Bwrdd Rheoli.

SUT?

Mae'r ffenest recriwtio wedi cau tan mis Medi 2024.

COST

Mae rhedeg CIFW yn gostus ac rydym yn cael cefnogaeth gan amrywiaeth o gyllidwyr, ond mae angen ychydig o gymorth gan y rhai sy'n cymryd rhan.

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £2.50 y sesiwn, neu £25 y tymor.

Mae CIFW yn agored i bawb, a dydyn ni ddim eisiau i’r gost fod yn rhwystr i neb. Felly cysylltwch â ni os hoffech drafod ein rhaglen fwrsariaeth.

LLE

Bydd y sesiynau yn digwydd yn Nyth, ein cartref newydd ym Mangor.
Beth yw
CIFW?
MWY