Baner Ehangu Stiwdio Lles
23.09.26

Ehangu Y Stiwdio Lles

Y cynllun celf a llesiant i ddychwelyd efo artistiaid a phartneriaid newydd

Yn dilyn llwyddiant ysgubol prosiect peilot, mae Y Stiwdio Lles yn dychwelyd yr hydref yma gyda mwy o artistiaid proffesiynol, partneriaid newydd ac uchelgais pellach i ddatblygu gofal iechyd creadigol.

Wedi’i gynllunio fel rhaglen greadigol ataliol, mae Y Stiwdio Lles yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed drwy fynegiant artistig a chysylltiad cymunedol. Mae’r prosiect yn ymateb yn uniongyrchol i’r heriau cynyddol sy’n ymwneud â gorbryder cymdeithasol, unigrwydd a diffyg hunanhyder ymhlith pobl ifanc, gan gynnig dewis hygyrch, ddi-glinigol yn lle ymyriadau iechyd traddodiadol.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng uned Celf Cymunedol Cyngor Gwynedd a Frân Wen.

Gan adeiladu ar sylfeini’r llynedd, bydd cam nesaf Y Stiwdio Lles yn derbyn cefnogaeth gan rhwydwaith estynedig gan gynnwys Meddygfa Bodnant, Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb Prifysgol Bangor, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Mantell Gwynedd, Hwb Dinas Bangor a Choleg Llandrillo Menai. Drwy bontio’r bwlch rhwng y celfyddydau a gofal iechyd, mae’r prosiect yn gweithio ar y cysyniad o ‘gelf ar bresgripsiwn’ gan ddarparu gweithgareddau creadigol i wella lles meddwl.

Yr artistiaid sy’n rhan o’r Stiwdio Lles eleni yw Casi Wyn, bardd a chantores; Leo Drayton, awdur theatr; Mirain Fflur, actor ac artist amlddisgyblaethol; Mari Gwent, artist amlgyfrwng; Eli Williams, artist symud a gweledol; a Robin Edwards, artist sain, cerddor a chynhyrchydd cerddoriaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Economi a Chymuned:

“Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gefnogi Stiwdio Lles fel prosiect arloesol i gefnogi iechyd meddwl cymunedol ein oedolion ifanc trwy’r celfyddydau.

“Rydym yn croesawu’r cyfle i barhau i gydweithio gyda phartneriaid iechyd a’r celfyddydau er mwyn adeiladu ar yr hyn wireddwyd y llynedd. Unwaith eto, mae’r prosiect yma’n profi gwerth amhrisiadwy’r celfyddydau wrth gefnogi llesiant oedolion ifanc Gwynedd”.

Meddai Elgan Rhys o Frân Wen:

“Mae gweld yr effaith ddofn gafodd mynegiant creadigol ar les oedolion ifanc wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw cymorth anghlinigol.

“Nid tyfu’r rhaglen yn unig yw’r cam nesaf hwn. Mae’n ymwneud â gwneud celf ar bresgripsiwn yn rhan barhaol o’r dirwedd gofal iechyd, a datblygu dull creadigol a chynaliadwy o gefnogi iechyd meddwl oedolion ifanc ledled Gogledd-orllewin Cymru.”

Effaith a Chefnogaeth y Gymuned

Profodd cyfranogwyr peilot y llynedd drostynt eu hunain sut y gall ymyriadau artistig anhraddodiadol, wedi’u gwreiddio yn y gymuned, drawsnewid lles personol.

Meddai un cyfranogwr a oedd yn dymuno aros yn ddienw:

“Rhoddodd yr hyder a gefais drwy Stiwdio Lles yr hyder i mi deimlo’n fwy abl i reoli meysydd eraill o’m mywyd yr oeddwn yn cael trafferth â nhw.”

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol lleol hefyd wedi croesawu’r fenter fel opsiwn pwysig ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.

Meddai Dr Nia Hughes, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Cychwynnol, Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae’n wych cael cynnig arbennig y stiwdio lles fel adnodd cymunedol i’n cleifion ifanc, er mwyn hybu lles a chefnogi iechyd meddwl unigolion ar ffurf presgripsiwn cymdeithasol.”

Trosolwg o’r Rhaglen a’r Amserlen

Wedi’i lleoli yn Nyth ym Mangor, mae Stiwdio Lles yn cyfuno sesiynau creadigol galw heibio wythnosol dan arweiniad artistiaid proffesiynol profiadol â phrofiadau preswyl dwys dros benwythnosau.

Mae pob sesiwn yn hunan-gyfeiriol. Gall unrhyw un rhwng 18 a 30 oed sydd â diddordeb lenwi ffurflen fer ar-lein i fynychu’r gyfres lawn, neu alw heibio i sesiynau unigol yn ôl yr angen.

Sesiynau Galw Heibio Wythnosol

Cynhelir y sesiynau ar ddydd Mercher rhwng 4pm a 6pm. Mae pob sesiwn dwy awr yn arwain cyfranogwyr drwy weithgareddau creadigol ymarferol mewn amgylchedd cefnogol.

  • Sesiynau Galw Heibio’r Hydref: 7 Hydref 2026 - 25 Tachwedd 2026

  • Sesiynau Galw Heibio’r Gwanwyn: 20 Ionawr 2027 - 10 Mawrth 2027

  • Sesiynau Galw Heibio’r Haf: 7 Ebrill 2027 - 26 Mai 2027

Sesiynau Penwythnosau

Digwyddiadau deuddydd dan arweiniad tri artist proffesiynol, gyda rhaglen greadigol amrywiol sy’n cynnwys seibiannau a lle tawel i ymlacio a chael amser i ffwrdd.

  • Penwythnos 1: 5 Rhagfyr 2026 - 6 Rhagfyr 2026

  • Penwythnos 2: 20 Mawrth 2027 - 21 Mawrth 2027

  • Penwythnos 3: 5 Mehefin 2027 - 6 Mehefin 2027

Sut i Gymryd Rhan

Uchelgais hirdymor Stiwdio Lles yw sefydlu rhaglen gynaliadwy a fydd yn trawsnewid y ffordd y caiff iechyd meddwl oedolion ifanc ei gefnogi ledled Cymru.

I unrhyw un a hoffai ymweld â Nyth cyn mynychu sesiwn, cysylltwch â thîm Frân Wen yn uniongyrchol.

Tudalen prosiect
Y Stiwdio Lles
Mwy