Diwrnod Agored Nyth
Cyfle i weld cynlluniau nyth creadigol newydd ym Mangor.
Rydyn ni ar fin gweddnewid yr hen Eglwys Santes Fair ym Mangor yn hwb gelfyddydol, diwylliannol a chymunedol i blant a phobl ifanc.
Bydd y safle ar Ffordd Garth yn cael ei agor i’r cyhoedd ar ddydd Iau, 29 Gorffennaf fel rhan o ddigwyddiad rhannu cynlluniau ar gyfer y canolfan newydd.
Bydd y cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn cael eu harddangos yn y diwrnod agored. Mae’r cynlluniau yn cynnwys gofod perfformio ac ymarfer mawr, gofod stiwdio fechan, swyddfeydd a gofod cymdeithasu hyblyg.
“Rydym yn deall pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol yma i’r gymuned leol felly maen hynod o bwysig i ni roi’r cyfle yma i bobl ddod i weld yr adeilad cyn i’r gwaith datblygu gychwyn,” meddai Nia Jones, ein Cyfarwyddwr Gweithredol.
SUT I FYNYCHU?
Mae angen i bawb gofrestru o flaen llaw drwy’r ffurflen ar-lein neu ffonio 01248 715048. Dewiswch slot amser cyfleus er mwyn helpu rheoli niferoedd.
Nodwch y bydd y digwyddiad yn dilyn rheolau a chyfyngiadau Covid 19. Bydd cyfyngiad ar y niferoedd ar gyfer pob slot a bydd gofyn i bawb wisgo mwgwd oni bai bod gennych reswm meddygol dros beidio.
DIWRNOD AGORED NYTH (LL57 2RW)
Dydd Iau, 29 Gorffennaf
11am – 7pm
ARCHEBU: Ar-lein neu 01248 715048.