Deian Loli Baner
16.10.23

Deian a Loli yn hedfan i'r llwyfan

Sioe theatr fyw yn 2024

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres deledu, mae Deian a Loli yn camu i fyd theatr byw am y tro cyntaf erioed.

Mae Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf yn gynhyrchiad newydd sbon sydd wedi ei ddatblygu i’r llwyfan gan dîm craidd y gyfres deledu wreiddiol sef Angharad Elen fel Cynhyrchydd Creadigol, Manon Wyn Jones fel Dramodydd a Martin Thomas fel Cyd-gyfarwyddwr gyda Gethin Evans.

Mae’r gyfres deledu, sydd wedi ennill llu o wobrau cenedlaethol, gan gynnwys Broadcast Award, gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd a sawl gwobr BAFTA Cymru, yn dilyn anturiaethau efeilliaid direidus sy’n meddu ar bwerau hudol.

Bydd y sioe yn teithio 5 theatr ledled Cymru ym mis Ebrill a Mai 2024 - gyda thocynnau'n mynd ar werth ar ddydd Mercher, 25 Hydref.

Gethin Evans a Angharad Elen
Gethin Evans a Angharad Elen


Mae Y Ribidirew Olaf yn digwydd ar ddiwrnod cynta’r efeilliaid yn yr ysgol uwchradd ond dydi Loli ddim eisiau mynd. Ar ben hynny mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu cuddio.

Does dim amdani ond dweud y gair hud - RIBIDIREW! - er mwyn rhewi eu rhieni a mynd ar drywydd y ffrind dychmygol.

Cynhyrchir Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf gan Frân Wen mewn partneriaeth â Pontio gyda chefnogaeth Cwmni Da sef cynhyrchwyr y gyfres deledu.

Martin Thomas a Manon Wyn Jones


“Rydym wrth ein bodd cyhoeddi antur newydd Deian a Loli a dod â’r efeilliaid eiconig i fyd y theatr,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

“Mae’n gyfrifoldeb mawr ond yn un rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar ato – mae gweledigaeth y tîm creadigol yn llawn o’r hud, sensitifrwydd a’r ddrama rydyn ni’n ei gysylltu â Deian a Loli… gydag ambell syrpreis hefyd!

“Unwaith eto, rydyn ni yn Frân Wen yn cydweithio â rhai o dalentau creadigol mwyaf cyffrous Cymru wrth i ni ddod â’r stori epig hon o ddewrder, antur a dychymyg yn fyw ar lwyfan i blant ledled y wlad.”

“Hoffem ddiolch i Cwmni Da ac S4C am eu cefnogaeth i wireddu’r cynhyrchiad ac i Gronfa’r Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru am y nawdd.”

Mae Angharad, a gafodd ei hysbrydoli i greu y gyfres deledu Deian a Loli gan ei phlant ei hun, Cain a Syfi, yn “edrych ymlaen yn fawr i rannu’r antur newydd yma efo cynulleidfa fyw.”

“Wrth i Deian a Loli fynd ar antur i ben draw dychymyg a thu hwnt, mae’r bygythiad o orfod tyfu fyny yn ysgwyd sylfeini byd yr efeilliaid am byth - rhywbeth y gallwn ni i gyd uniaethu ag o.”

“Byd hud, llawn dychymyg ydi byd Deian a Loli, ac felly mae’r syniad o gyflwyno’r byd ffantasïol hwnnw mewn gofod theatrig yn fy nghyffroi yn arw.

Mae’n ofod lle y gall dychymyg redeg a rasio, lle mae’r cyffredin yn troi’n anghyffredin a lle mae unrhyw beth yn bosib.
Angharad Elen, Cynhyrchydd Creadigol Deian a Loli

Meddai Llion Iwan, Rheolwr Cyfarwyddwr Cwmni Da:

“Mae Cwmni Da yn falch iawn i weld Deian a Loli yn ymddangos ar lwyfan theatrau Cymru. Mae’r rhaglen yn amlwg wedi ennill ei lle yng nghalonnau miloedd o blant Cymru ers iddi ymddangos ar ein sgriniau am y tro cyntaf yn 2016.

“Does 'na ddim cwmni gwell na Frân Wen i ddod â’r cymeriadau yn fyw ar lwyfan ac rydyn ni’n ffyddiog bydd y sioe yn llwyddiant enfawr.”

Bydd tocynnau Deian a Loli - Y Ribidirew Olaf ym mynd ar werth am 10am ddydd Mercher, 25 Hydref 2023.

Map taith Deian a Loli


RHESTR TAITH
Pontio, Bangor30 Ebrill - 04 Mai
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth09 - 11 Mai
Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl14 - 15 Mai
Y Lyric, Caerfyrddin21 - 24 Mai
Theatr y Sherman, Caerdydd05 - 08 Mehefin