Bwrdd FW Baner
06.11.25

Cyhoeddi Bwrdd ar ei newydd wedd

Yn barod i arwain cam nesaf y cwmni

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Bwrdd Rheoli ar ei newydd wedd fydd yn ein harwain i'r cyfnod cyffrous nesaf yn ein taith.

Yn cadeirio’r bwrdd mae Meleri Davies, arweinydd profiadol ac un o leisiau mwyaf dylanwadol y sector cymunedol yng Nghymru. Mae Meleri yn gyn Brif Weithredwr Partneriaeth Ogwen ac yn un o sylfaenwyr Ynni Ogwen. Mae'n gyn gyfarwyddwr gyda Ynni Cymunedol Cymru a Chwmni Tabernacl Bethesda Cyf ac yn parhau i wasanaethu fel cyfarwyddwr gwirfoddol gyda Siop Ogwen Cyf ac Ynni Ogwen Cyf.

Mae’n dod â chyfuniad unigryw o brofiad mewn arweinyddiaeth, menter gymdeithasol, cynaliadwyedd a llywodraethu ochr yn ochr â dawn greadigol amlwg gan iddi ennill Yr Wobr Farddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2025.


Mae Frân Wen bob amser wedi cefnogi creadigrwydd, dewrder a chymuned, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’i thaith. Mae’r bwrdd newydd hwn yn dod â chyfoeth o arbenigedd a phŵer, ac ynghyd rydym wedi ymrwymo i gefnogi twf ac uchelgais y cwmni, gan gadw cymunedau a diwylliant y Gymraeg wrth galon popeth a wnawn.
Meleri Davies, Cadeirydd Frân Wen

Wrth i ni edrych ymlaen at gyfnod newydd i’r cwmni gyda Meleri hoffem ddiolch yn fawr i Pryderi am ei arweiniad ysbrydoledig a diflino fel Cadeirydd dros y pedair blynedd diwethaf.

"Mae ei weledigaeth a’i ymrwymiad wedi bod yn allweddol i dwf a llwyddiant y cwmni mewn cyfnod trawsnewidiol, gan gynnwys datblygiad a gwireddu ein cartref newydd, Nyth. Trwy ei gefnogaeth ddi-ildio i’n gwaith creadigol, mae Pryderi wedi ein hysbrydoli a’n herio i gyrraedd ein llawn potensial ac i archwilio dulliau newydd ac arloesol o greu a chydweithio. Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod yn parhau i elwa ar ei brofiad a’i frwdfrydedd wrth iddo barhau gyda ni fel Cyfarwyddwr," meddai Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen.

Yn ymuno â Meleri mae bwrdd amrywiol o unigolion creadigol a blaengar sy’n cynrychioli ystod eang o brofiadau yn y celfyddydau, busnes, addysg a’r sector gyhoeddus.

Maent yn cynnwys Dafydd Gruffydd (Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn), Megan Crew (Myfyriwr Theatr ac aelod Cwmni Ifanc Frân Wen), Irfon Jones (Cyn gynhyrchydd BBC), Pryderi ap Rhisart (Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc), Gari Wyn Jones (Hanesydd ac Entrepreneur), Jafar Iqbal (Cynhyrchydd Theatr Llawrydd), Elen ap Robert (Ymgynghorydd Celfyddydau), Natasha Nicholls (Pennaeth Rheoli Rhaglenni'r Celfyddydau, Cyngor Prydeinig), Mali Grigg (Actor) a Marcel Clusa (Prifysgol Bangor).

Daw’r cyhoeddiad hwn ar adeg arbennig o gyffrous i ni yn dilyn agoriad Nyth - ein cartref creadigol newydd - ac ar ôl cyfres o gynyrchiadau llwyddiannus sy’n amlygu lleisiau a straeon Cymreig.

Dafydd Gruffydd

DAFYDD GRUFFYDD
Mae Dafydd yn Rheolwr Gyfrwyddwr gyda Menter Môn, a wedi gweithio gyda’r menter gymdeithasol am bron i 30 mlynedd. Mae wedi gweithio mewn amryw o feysydd gan gynnwys economi, bwyd, amaeth, treftadaeth a iaith.

Megan Crew

MEGAN CREW
Ymunodd Megan â Frân Wen gyntaf drwy brofiad gwaith TGAU a dychwelodd ym mlwyddyn 13 i ymuno â’r Cwmni Ifanc, gan ymuno â'r bwrdd yn fuan wedyn. Mae hi bellach yn astudio Drama ym Mhrifysgol Exeter, gan barhau i archwilio creu theatr a pherfformio.

Irfon Jones

IRFON JONES
Mae Irfon newydd ymddeol wedi gyrfa o 40 mlynedd mewn radio a theledu. Mae o wedi gweithio yn y sector annibynnol ac i’r BBC.

Pryderi

PRYDERI AP RHISART
Pryderi yw’r Cyfarwyddwr Rheoli yn M-SParc, cartref bywiog i dros 80 o fusnesau ac yn brif bartner cyflawni Busnes Cymru yn y rhanbarth. Dan ei arweinyddiaeth, mae M-SParc wedi datblygu’n ganolfan ar gyfer clwstwr cyffrous ym meysydd ynni, digidol, creadigol ac agri-tech, gan yrru arloesi a chydweithio ar draws y Gogledd.

Gari Wyn

GARI WYN JONES
Mae Gari yn aelod bwrdd Frân Wen ers 2017. Ef yw sylfaenydd a pherchennog Ceir Cymru, busnes gwerthu ceir llwyddiannus yng Ngogledd Gorllewin Cymru. Mae Gari yn hanesydd lleol brwd ac yn aelod cymunedol gweithgar ym Mangor, gan gyfrannu at fentrau fel Cronfa Gymuned Prifysgol Bangor, Frân Wen a Phartneriaeth Ogwen.

Jafar

JAFAR IQBAL
Mae Jafar yn gynhyrchydd theatr gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y celfyddydau, ac yn ddiweddar sefydlodd JHOOM, y cwmni theatr gyntaf yn hanes Cymru sydd wedi ei ysbrydoli gan Dde Asia.

Elen Ap Robert

ELEN AP ROBERT
Mae Elen wedi bod yn gweithio yn y Celfyddydau ers dros ddeugain mlynedd, fel cantores opera, yna therapydd cerdd ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr artistig cyntaf Galeri ac yna Pontio. Erbyn hyn mae’n gweithio’n llawrydd fel Ymgynghorydd yn y Celfyddydau ac yn gyd berchenog Bar, Caffi, Cegin - Llofft yn y Felinheli.

Natasha Nicholls

NATASHA NICHOLLS
Natasha yw Pennaeth Rheoli Rhaglenni Celfyddydau’r Cyngor Prydeinig ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda sectorau Celfyddydau’r DU a Rhyngwladol ar ôl dechrau ei gyrfa fel Rheolwr Llwyfan i gwmnïau theatr o Gymru.

Mali Grigg

MALI GRIGG
Mae Mali yn actor gyda chysylltiadau cryf efo Fran Wen, fel aelod pwysig o’r Cwmni Ifanc a’r rhaglen Aelodau Cyswllt.

Marcel

MARCEL CLUSA
Mae Marcel yn Swyddog Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor, yn wreiddiol o Barcelona, a gwblhaodd MSc mewn Diogelu’r Amgylchedd Morol a PhD mewn Cadwraeth Crwbanod Môr. Ers Mai 2016, mae wedi bod yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol gyda materion mewnfudo, lles ac digwyddiadau, ac yn arwain prosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd megis Internationals Go Green ym Mangor.