Pay Dd6
24.03.20

Cyhoeddi Artistiaid Nyth

Artistiaid yn cyfoethogi proses dylunio Nyth.

Rydym yn falch o gyhoeddi’r artistiaid fydd yn cydweithio gyda ni fel cwmni, tîm dylunio a’n pobl ifanc ar y broses o ddylunio ein cartref newydd ym Mangor.Mae’r artistiaid isod wedi eu dethol gan bod eu gweledigaeth artistig yn defnyddio celf i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant trwy greadigrwydd tra’n dathlu treftadaeth arbennig yr adeilad. Wrth gydweithio yn agos gyda’n cymunedau, bydd yr artistiaid yn cefnogi strategaeth celfyddydau cyhoeddus y prosiect er mwyn sichrau bod celf gyhoeddus yn cael ei ymgorffori yn nyluniad terfynol Nyth.Y prosiectau llwyddiannus yw:1. Telynth gan R. SeiliogMae’r cerddor R.Seiliog am ddatblygu offeryn cerddorol, rhyngweithiol all gael ei chwarae ymhob ardal o’r adeilad.Gyda hwb canolog yr offeryn yng nghalon y gofod cymdeithasol bydd modd chwarae’r offeryn o unrhyw le yn yr adeilad. Bydd yn amlygiad acwstig o weithgaredd Frân Wen tra hefyd yn fodd o ddarganfod eich ffordd o amgylch yr adeilad. Bydd yr offeryn yn gwahodd y cyhoedd i arbrofi, archwilio, chwarae a chyd-greu sain amgylchol.2. Egwyl gan Gwyn Eiddior a Tom AyersDyma le i ymlacio, i gael ‘dy wynt atat’, i dawelu ar ôl cyfnod prysur neu i symfyfyrio am ychydig. Gallai’r ysbaid yma greu gwyrthiau, esgor ar drafodaethau newydd neu feddyliau gwerthfawr neu jyst caniatáu i unigolyn oedi cyn ail gydio a’i ddiwrnod.Yn ogystal â bod yn waith celf drawiadol, dyma osodiad fydd yn cynnig encil i holl aelodau, artistiaid, cynulleidfaoedd ac ymwelwyr adeilad newydd y Nyth. Cilfach arbennig gall rhywun (mewn sawl ystyr) ‘ddod nôl at ei goed’.O gyfieithu’r gofod hwn i sgript theatr, dyma’r ‘egwyl’ hollbwysig tu hwnt i’r perfformiadau prysur.3. Gwledd gan Melissa Appleton a Owen GriffithsTybed os allwn ni adrodd a dehongli hanesion yr hen eglwys a’i chymuned drwy bryd bwyd tri chwrs?Bydd Gwledd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymunedol a chymdeithasol er mwyn ail-ddynodi’r safle a’i rôl o fewn y gymuned leol, ranbarthol a chenedlaethol. Wedi’r digwyddiadau yma, bydd yr artistiaid yn defnyddio’r darganfyddiadau i ddatblygu safle cymunedol yn y Nyth. Mae syniadau cychwynnol yn cynnwys gardd a lle bwyta cymunedol.Y bwriad yw cynllunio’r adeilad fel adnodd cymunedol ehangach yn ogystal â chartref creadigol newydd Frân Wen.