Cyhoeddi artist rhaglen datblygu efo Eisteddfod
Rebecca Wilson wedi ei dewis yn dilyn galwad agored
Mae Frân Wen yn falch o gyhoeddi bod yr artist Rebecca Wilson wedi ei dewis yn dilyn galwad agored mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Roedd yr alwad yn chwilio am artistiaid ifanc sy'n frwd am greu profiadau wedi'u teilwra ar gyfer gwyliau a gwaith awyr agored.

Bydd Rebecca yn datblygu gwaith newydd ffrwydrol o'r enw Rhyfelwr. Dynes. Rhamantydd.
Mae brwydr yn cyrraedd y maes yn yr arbrawf tanllyd yma gyda dyrnau’n hedfan a rhamant yn llifo wrth i bethau fynd yn emosiynol ar flaen y gad.
Wedi ei ysbrydoli gan Gwenllian Ferch Gruffydd ac wedi ei sbarduno gan ymarfer creadigol Rebecca sy’n ymarferydd ymladd, dyma ddarn o theatr gorfforol sy’n brathu ond sydd â chalon fawr.
Bydd ymwelwyr i’r Eisteddod eleni yn cael cipolwg ar y gwaith datblygol mewn lleoliadau annisgwyl ar draws y Maes.
Partneriaeth rhwng Frân Wen a’r Eisteddfod fel rhan o gynllun datblygu artistiaid ifanc.