Datblygu Artistiaid Baner2024

Datblygu sioe Eisteddfod '26

Cylfe i ddatblygu sioe efo'r Eisteddfod

Rydym yn parhau i gydweithio gyda'r Eisteddfod i gefnogi artistiaid ifanc sydd yn awchu i ddatblygu sioe ymylol ar gyfer yr Eisteddfod.

Rydym yn chwilio am:

  • Artistiaid rhwng 18 a 30 oed sy'n frwd am greu profiadau wedi'u teilwra ar gyfer gwyliau a gwaith awyr agored.

Gall hyn gynnwys:

  • Perfformiadau hyd at 60 munud o hyd.

  • Cynyrchiadau deinamig a symudol sy'n addas i'w perfformio ar draws leoliadau gwahanol

  • Technegau adrodd stori sy'n gwthio ffiniau

  • Dulliau rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno cerddoriaeth, symudiad a chelf gweledol

  • Cysyniadau llwyfannu arloesol y gellir addasu i amgylcheddau gwahanol

  • Elfennau rhyngweithiol sy'n ennyn ymgysylltu â'r gynulleidfa

Mae’r cynnig yma yn cynnwys preswyliad yn Nyth, cartref newydd Frân Wen, a phroses ddatblygu sy’n gyfle i ddatblygu sgiliau a derbyn mentoriaeth gan artistiaid proffesiynol ynghyd â llwyfan i rannu gwaith mewn datblygiad yn yr Eisteddfod yn 2025 cyn y potensial o gomisiwn llawn.

Bydd pum artist yn cael eu dethol ac yn derbyn cynhaliaeth i gymryd rhan mewn preswyliad a rhaglen datblygu sgiliau a mentoriaeth. Bydd pob artist yn cael eu cefnogi i ddatblygu pitsh gydag un syniad yn cael ei ddethol i broses gomisiynu yn 2025-2026.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynnig hwn, cysylltwch â ni ar ebost i rannu ychydig am eich hunan a pham bod y cyfle yma o ddiddordeb i chi ynghyd ag amlinelliad byr iawn am sioe ar gyfer yr Eisteddfod. Nid oes rhaid i'r cysyniad fod wedi ei ddatblygu yn llawn, mae'n daith y byddwn yn mynd arni gyda'n gilydd

Dyddiad cau: 28 Hydref 2024

Anfonwch eich cais at artist@franwen.com

I ddysgu mwy am y cyfle gwyliwch allan ein sesiwn rhannu gwybodaeth yng Nghaffi Maes B eleni!

Mae e-byst artist@franwen.com yn cael eu monitro gan Gethin Evans (Cyfarwyddwr Artistig), Nia Jones (Cyfarwyddwr Gweithredol), Ceriann Williams (Cynhyrchydd Cyswllt) ac Olwen Williams (Gweinyddwr).

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pawb yn gallu manteisio ar y cyfle. Wrth gofrestru diddordeb byddwch yn cael cyfle i nodi unrhyw anghenion mynediad.

Rydym yn gwmni sy'n creu gwaith yn y Gymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr a dysgwyr newydd.