Dynolwaith Cyfle Hyfforddi Baner
09.07.25

Cyfleon hyfforddi newydd

Angerddol am y theatr ac yn chwilio am ffordd i mewn?

Oes gennych chi brofiad byw fel person traws ac eisiau llunio dyfodol theatr Cymru o du ôl i'r llenni neu yn y gymuned?

Mae Frân Wen a Theatr y Sherman yn cynnig dau gyfle hyfforddi â thâl ar Dynolwaith, cynhyrchiad newydd Cymraeg a ysgrifennwyd gan Leo Drayton.

Mae'r cyfleoedd wedi'u cynllunio'n benodol i unigolion sydd â phrofiad byw fel dyn neu dynes traws, unigolyn anneuaidd neu unigolyn nad ydynt yn cyd-fynd ag unrhyw rhywedd penodol neu unrhyw hunaniaeth traws arall.

P'un a ydych chi eisiau mewnwelediad ymarferol i’r broses greadigol a thechnegol o greu theatr fyw, neu dod â theatr i ddosbarthiadau a chymunedau, dyma gyfle i ddatblygu eich sgiliau, cyfarfod artistiaid proffesiynol ysbrydoledig, a bod yn rhan o ddarn o waith uchelgeisiol a hanfodol sy'n teithio Cymru. Nid oes angen profiad ffurfiol - dim ond eich llais, eich egni a'ch diddordeb mewn adrodd straeon.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr newydd gan gynnig cefnogaeth fel bo’r angen. Dyma gyfle i unigolion dros 18 oed. Mae ceisiadau'n cau am 12pm, dydd Llun 28 Gorffennaf - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

1. Cyfle Hyfforddi Technegol

Mae Frân Wen a Theatr y Sherman yn cynnig rôl technegol dan hyfforddiant cyffrous ar y cynhyrchiad DYNOLWAITH gan Leo Drayton.

Mae’r rôl yn anelu at bobl sydd â phrofiad byw fel dyn traws, dynes traws, unigolyn anneuaidd neu unigolyn nad ydynt yn cyd-fynd ag unrhyw rhywedd penodol neu unrhyw hunaniaeth traws arall, sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn agweddau technegol theatr. Efallai eich bod newydd gychwyn eich gyrfa neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, dyma gyfle i gael profiad ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol, cefnogol a chadarnhaol.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm profiadol yn ystod ymarferion a pherfformiadau gan gael mewnwelediad ymarferol i’r broses greadigol a thechnegol o greu theatr fyw.

Darperir sesiynau meistr gan artistiaid proffesiynol ar dyddiadau i’w cytuno arnynt cyn i’r ymarferion gychwyn.

Dyma gyfle i unigolion dros 18 oed.

Ffi: Cyfanswm o £2,500 am 5 wythnos o waith ynghyd â £80 am fynychu sesiwn meistr.

Dyddiadau allweddol: 8 Medi 2025 - 12 Hydref 2025

Lleoliad: Bangor, Caerdydd ac ar daith. Bydd llety, cynhaliaeth a theithio yn cael ei ddarparu.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl ac rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr newydd gan gynnig cefnogaeth fel bo’r angen.

Os oes gennych ddiddordeb, hoffem glywed gennych! Gallwch wneud cais ym mha bynnag ffordd sy’n addas i chi - anfonwch lythyr yn sôn amdanoch eich hun, CV, dolenni i’w gwaith (os oes gennych rai) neu fideo byr yn esbonion pam fod y cyfle yma yn eich cyffroi.

Dyddiad cau: 12pm, dydd Llun, 28 Gorffennaf

Cyfweliadau: dydd Mercher, 30 Gorffennaf (dros Zoom)

Ceisiadau: Anfonwch at post@franwen.com

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar post@franwen.com / 01248 715048 os hoffech drafod y cyfle cyn cyflwyno cais.

Cefnogir y rôl yma gan gyllid loteri drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

2. Cyfle Hyfforddi Ymgysylltu Creadigol

Mae Frân Wen a Theatr y Sherman yn cynnig rôl hyfforddi Ymgysylltu Creadigol cyffrous i weithio gyda’r Tîm Ymgysylltu ar y cynhyrchiad DYNOLWAITH gan Leo Drayton.

Mae’r rôl yn anelu at bobl sydd â phrofiad byw fel dyn traws, dynes traws, unigolyn anneuaidd neu unigolyn nad ydynt yn cyd-fynd ag unrhyw rhywedd penodol neu unrhyw hunaniaeth traws arall, sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn agweddau hwyluso ac ymgysylltu yn y byd theatr. Efallai eich bod newydd gychwyn eich gyrfa neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, dyma gyfle i gael profiad ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol, cefnogol a chadarnhaol.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm profiadol i gynllunio a chyflwyno sesiynau i ysgolion a grwpiau cymunedol, gan gael mewnwelediad ymarferol a strategol i’r broses gymunedol ac ymgysylltu sy’n cyd-redeg â chynhyrchu cynhyrchiad theatr.

Darperir sesiynau meistr gan artistiaid proffesiynol ar dyddiadau i’w cytuno arnynt cyn i’r ymarferion gychwyn.

Dyma gyfle i unigolion dros 18 oed.

Ffi: Cyfanswm ffi o £1,500 am 3 wythnos o waith ynghyd â £80 am fynychu sesiwn meistr.

Dyddiadau allweddol: 22 Medi 2025 - 12 Hydref 2025

Lleoliadau: Bangor, Caerdydd ac ar daith. Bydd llety, cynhaliaeth a theithio yn cael ei ddarparu.