Baner Cyfarwyddwr Cynorthwyol
30.11.23

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Deian a Loli

Dewch i fod yn rhan allweddol o dîm creadigol y cynhyrchiad newydd.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i fod yn rhan allweddol o dîm creadigol Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf

Mae'r cynhyrchiad wedi ei ddatblygu i’r llwyfan gan dîm craidd y gyfres deledu wreiddiol sef Angharad Elen fel Cynhyrchydd Creadigol, Manon Wyn Jones fel Dramodydd a Martin Thomas fel Cyfarwyddwr Cyswllt.

Dyma gyfle i weithio ochr yn ochr â Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen a chyfarwyddwr y cynhyrchiad wrth ddatblygu, paratoi a gwireddu ei weledigaeth ar gyfer y cynhyrchiad.

CYFRIFOLDEBAU

  • Gweithio ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr wrth greu’r cynhyrchiad.
  • Cyfrannu’n weithredol at y broses o ymarfer a chynhyrchu.
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cynhyrchu.
  • Bod yn gyfrifol am gefnogi ymarferion gyda chast ifanc mewn lleoliadau amrywiol.
  • Cymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu â’r gymuned fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynhyrchiad.
  • Arwain ar ambell i agwedd o’r broses ymarfer, yn ddibynnol ar brofiad.
  • Ymrwymiad i weithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.

GOFYNION

Gofynion hanfodol:

  • Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
  • Diddordeb brwd mewn creu theatr i gynulleidfaoedd ifanc.
  • Dealltwriaeth dda o theatr gyfoes yng Nghymru.
  • Ymrwymiad i weithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.
  • Parodrwydd i deithio o amgylch Cymru.
  • Profiad o greu theatr yn broffesiynol.

Gofynion dymunol:

  • Profiad o weithio gyda chymunedau a phlant.

Rhaid bod ar gael ar y dyddiadau canlynol:

  • 12 – 16 Chwefror 2024
  • 18 Mawrth – 4 Mai 2024

Cynhelir yr ymarferion yn Nyth, cartref newydd Frân Wen ym Mangor.

TELERAU

Ffi wythnosol £600 yr wythnos ynghyd â ffi paratoi o £1232.32 - yn ogystal â chostau teithio, llety a chynhaliaeth (os yn berthnasol).

PROFIAD

Dyma gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad o hanfodion y rôl a’r modd y mae ystafell ymarfer yn gweithio.

PROSES YMGEISIO

Anfona e-bost at post@franwen.com yn nodi CYFLE CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL erbyn 08 Ionawr 2024.

Rhaid i’r e-bost gynnwys y canlynol:

• Dy reswm dros ymgeisio am y cyfle.

• Yr hyn sydd gen ti i gynnig i’r prosiect.

• CV cyfredol.

Yn ogystal, gofynnwn i chi gwblhau’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal (bydd yr wybodaeth a gyflwynir yn ddi-enw ac yn cael ei ddefnyddio er mwyn casglu data a monitro amcanion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y cwmni).