Pay Dd6
06.12.17

Codi'r llen ar ddementia drwy lygaid plentyn

Mae sioe deuluol newydd am ddementia drwy lygaid plentyn yn teithio Cymru'r Gwanwyn yma.

Wy, Chips a NainMae Ŵy, Chips a Nain yn stori wirioneddol hyfryd sy’n dathlu’r berthynas unigryw rhwng Nain a’i ŵyr wrth wynebu bywyd gyda'r cyflwr colli cof.Cyd-gynhyrchiad yw'r sioe rhwng y cwmni theatr o Borthaethwy, Frȃn Wen, a Galeri Caernarfon lle bydd y perfformiad agoriadol mis Chwefror nesaf."Mae rhywbeth hudolus rhwng perthynas neiniau a theidiau a'u wyrion ac roeddem yn awyddus i ddathlu hyn ar lwyfan," meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen."Mae'r neiniau a theidiau wastad wedi chwarae rhan bwysig wrth fagu plant, ond heddiw 'da ni'n dibynnu arnynt fwy nag erioed i helpu gyda'r plant."Mae Ŵy, Chips a Nain wedi'i ysgrifennu gan y bardd a'r cerddor Gwyneth Glyn.Cafodd Gwyneth ei hysbrydoli gan breswylwyr yng nghartref Gwyneth gan gartref gofal dementia Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon, ac yn briodol, mae'r daith yn cael ei noddi gan Barc Pendine sy'n berchen ar y cartref.Yn y sioe mae Guto yn caru treulio amser gyda’i Nain sy'n cynnwys trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffor a thylwyth teg yn troi plant yn selsig!WyChipsNain3Yn ôl Gwyneth Glyn, mae'r ddrama yn ddarlun gonest o bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia, "Mae adrodd y stori drwy lygaid bachgen ifanc yn golygu nad yw'n stori dywyll ac yn galluogi ni i gynnig goleuni, gobaith a hiwmor i'r gynulleidfa.""Yn y bôn mae o'n edrych ar berthynas bachgen gyda'i nain a sut mae'r berthynas hon yn newid wrth i ddementia gael gafael. Bydd Guto yn aml yn mynd i dŷ ei Nain am dê ar ôl ysgol ac wrth ei fodd gydag ŵy a chips.""Trwy'r drefn arferol yma o goginio ŵy a chips 'da ni'n gweld y cyflwr yn datblygu ac yn gweld sut mae'r plentyn yn dechrau cymryd rôl fel gofalwr oedolyn wrth i'r dementia waethygu. Dwi'm eisiau difetha' diwedd y ddrama ond mae diweddglo, dwi'n gobeithio, teimladwy ond llawn gobaith."Ro'n i wir eisiau cael y neges drosodd nad ydy dementia yn golygu fod perthynas agos rhwng dau yn dod i ben - y gwir ydi fod o'n cyfoethogi bywydau mewn sawl ffordd.“Mi nes i weithio'n agos gyda Nia Davies-Williams, sef cerddor preswyl Bryn Seiont, er mwyn cael mewn-welediad i sut mae dementia yn effeithio ar bobl."Yn bersonol roedd y profiad yn addysgol iawn - mae fy nealltwriaeth i o'r cyflwr yn ehangach ac mae gweld faint mae'r celfyddydau yn cyfoethogi bywydau wedi rhoi gobaith mawr i mi."Nia Davies Williams yw cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd, "Mae'n brosiect gwych - dwi wrth fy modd fod o rhwng dwy genhedlaeth sy'n galluogi'r plant gael dealltwriaeth gwell o ddementia."Mae sgript Gwyneth yn wych, yn sensitif iawn ac yn adrodd hanes dementia trwy lygaid plentyn. Rwy'n gweld dementia bob dydd ac nid oes unrhyw ddau achos yr un fath, ond mae Gwyneth wir wedi dal yr effaith y mae dementia yn ei gael ar bobl."Meddai Nici Beech, Cyfarwyddwr Artistig Galeri Caernarfon, "Mae'r sgript yn wirioneddol hyfryd. Mae yna gast gwych gyda Gwenno Hodgkins ac Iwan Garmon, adegau teimladwy iawn ond hefyd lot fawr o chwerthin.""Mae ymarferion yn cychwyn diwedd Rhagfyr cyn i'r daith genedlaethol gychwyn yng Nghaernarfon ar yr 2ail o Chwefror.”MANYLION TAITH ŴY, CHIPS A NAINhttps://www.youtube.com/watch?v=DpMU0DhK4xA&t=23s