Galwad Baner
07.11.23

Chwilio am Deian a Loli i lwyfannau Cymru

Chwilio am blant rhwng 11-14 oed i gymryd rhan Deian a Loli mewn drama lwyfan newydd

Mae Frân Wen yn chwilio am blant rhwng 11-14 oed i gymryd rhan Deian a Loli mewn drama lwyfan newydd, fydd yn teithio Cymru yn 2024.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion niwroamrywiol, dall, byddar, anabl neu unigolion o’r Mwyafrif Bydeang, yn ogystal ag unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig.

Does dim rhaid cael unrhyw brofiad blaenorol o actio na pherfformio – dim ond brwdfrydedd a digonedd o egni! Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Bydd ymarferion y sioe yn digwydd ym Mangor rhwng Mawrth ac Ebrill 2024 a’r daith ledled Cymru rhwng Ebrill a Mehefin 2024.

SUT

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rhan Deian neu Loli, llenwch y ffurflen hon, uwchlwythwch ffotograff a hefyd fideo byr (dim mwy na 2 funud) yn cyflwyno eich hunain a dweud stori ddiddorol neu ddigrif amdanoch eich hunain.

Bydd rhaid cofrestru gyda system Submit, yna mewngofnodi, ac yna llenwi’r ffurflen.

Rhaid i’r fideos fod wedi eu ffilmio mewn 1080p a 30FPS (sef y gosodiad cyffredinol ar gyfer ffonau clyfar).

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y linc isod:

DYDDIAD CAU

Dyddiad cau – dydd Gwener, 24 Tachwedd 2023.

Y BROSES

Ar ôl derbyn y ceisiadau byddwn yn creu rhestr fer ac yn gwahodd nifer fechan i weithdy pellach yn ystod mis Rhagfyr 2023.

Byddwn yn anelu i gysylltu efo pob ymgeisydd i ddweud a ydyn nhw wedi cyrraedd y rownd nesaf ai peidio erbyn dechrau Rhagfyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag olwen@franwen.com