Chwilio am artisitiad theatr newydd i hoelio sylw
Rhaglen datblygu dwys i artisitiad dan 30 oed i archwilio dulliau newydd i hoelio sylw cynulleidfaoedd theatr.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein rhaglen ‘sgwennwyr newydd llynedd, rydym yn ymuno â Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, i ddatblygu artistiaid theatr dan 30 oed.
Eleni bydd y rhaglen yn ymestyn i wneuthurwyr theatr o bob disgyblaeth ac yn cychwyn gyda phenwythnos preswyl dwys yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Mai.
Mae'r cynllun wedi ei rannu mewn i 3 bloc ym mis Mai, Gorffennaf ac Awst (dyddiadau llawn isod).
Llynedd fe wnaethon ni ganolbwyntio ar gefnogi awduron newydd ac rydym yn falch iawn ein bod wedi comisiynu rhai o’r awduron cyffrous hynny, ac yn edrych ymlaen at wireddu eu gwaith yn gynyrchiadau llawn dros y blynyddoedd nesa.
Un o'r artistiaid sydd wedi derbyn comisiwn gan Frân Wen ar y cyd â Theatr Sherman yw Nia Morais, 25 oed, fu’n rhan o’r prosiect llynedd.
Cefais gip mewn i fyd theatr a dysgais i lot am yr holl ffyrdd gwahanol i ‘sgwennu ar gyfer y llwyfan. Roedd cael y cyfle yn addysg ac yn brofiad anhygoel.Nia Morais
Mae Frân Wen ac Eisteddfod yn awyddus i glywed gan leisiau ffresh, lleisiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yng Nghymru – boed o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig, yn byw ag anableddau neu salwch hir-dymor, neu o gefndir incwm isel.
Yn ogystal â chael eu mentora gan Frân Wen ac Eisteddfod, bydd yr artistiaid yn cael cyfle i weithio gyda gwneuthurwyr theatr enwog Slung Low a’r curadur creadigol Marc Rees.
Y bwriad yw annog artisitiad i fentro, arbrofi a herio ffiniau theatr.Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
SUT I YMGEISIO?
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Llun, 25 Ebrill 2022.
Y cyfan sydd angen yw anfon ebost at olwen@franwen.com neu WhatsApp 07854032643 gyda’r canlynol:
- Sampl o’ch gwaith creadigol mewn unrhyw fformat. e.e. darn o ‘sgwennu, fideo, traciau sain
- Disgrifad o ddarn o waith creadigol (ar unrhyw ffurf) sydd wedi eich ysbrydoli.
- Ychydig eiriau / neu ‘voice message’ yn nodi pam eich bod yn awyddus i ymgeisio am y cyfle?
Nodwch y manylion isod hefyd os gwelwch yn dda:
- Enw
- Cyfeiriad post
- Dyddiad Geni
- Cyfeiriad ebost
- Rhif ffôn
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth fel WeTransfer i drosglwyddo ffeiliau mawr.
MAE’N RHAID I YMGEISWYR FOD AR GAEL AR Y DYDDIADAU ALLWEDDOL ISOD :
7 - 9 MAI
Ty Newydd, Llanystudwy
25 - 31 GORFFENNAF
Bangor
1 - 7 AWST
Tregaron (union ddyddiad i’w gadarnhau)
Cynigir costau teithio ar gyfer yr uchod.
Os oes gennych unrhyw rwystrau mynediad yna cysylltwch gyda â gethin@franwen.com i drafod sut y gallwn eich cefnogi.