Cast Square
30.06.23

Cyhoeddi cast Popeth ar y Ddaear

Cyhoeddi cast i'r cynhyrchiad theatr cyntaf erioed ym Maes B.

Mae Iwan Fôn, Mali O'Donnell ac Eddie Ladd wedi eu cyhoeddi fel cast a'r band HMS Morris a Osian Williams (Candelas) fel cerddorion ar gyfer y cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear gan Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly.

Dyma’r cynhyrchiad theatr cyntaf erioed i’w berfformio ym Maes B.

Y band roc-gelf HMS Morris a phrif leisydd Candelas, Osian Williams fydd yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol yn fyw. Osian ei hun sydd wedi cyfansoddi’r sgôr.

Iwan Fôn a HMS Morris

Mae Iwan Fôn, sy’n chwarae rhan Tom, yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd Maes B fel aelod o’r bandiau Y Reu a Kim Hon. Mae’r actor o Garmel ger Caernarfon yn adnabyddus i rai fel Jason yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd, ac hefyd wedi gwneud ei farc fel actor llwyfan (Ar y Stryd, Frân Wen, Mrs Reynolds a'r Cena Bach; Theatr Genedlaethol Cymru).

Mali O'Donnell, Eddie Ladd a Osian Williams

Bydd Eddie Ladd (Blodeuwedd; Canolfan Chapter a Chwmni Diversions, Dawns Ysbrydion, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Malltwen, gyda Mali O’Donnell (Casualty; BBC, Spring Awakening; Almeida, Cariad yn Oes y Gin; Theatr Bara Caws) yn chwarae rhan Nona.

Poster Popeth ar y Ddaear

Nico Dafydd sy'n cyfarwyddo'r stori yma fydd yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos, ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Ma’ cael trawsnewid Maes B ar gyfer theatr byw yn fraint enfawr a ni methu disgwyl cyflwyno profiad epig fydd gobeithio yn gwneud cyfiawnder â’r gofod eiconig yma.
Cyfarwyddwr Nico Dafydd

Caiff y gynulleidfa eu tywys ar Maes B trwy gydol y ddrama, sy’n cael ei pherfformio ar nos Wener 11 Awst (11pm), yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Mae’r cast profiadol yn cael eu cefnogi gan ensemble o berfformwyr ifanc sydd wedi bod yn ymarfer ers misoedd ar gyfer y digwyddiad.

Rhaid chi fod yn barod i golli eich hunain yn y stori a’r gerddoriaeth.

Dydw i ddim isio rhoi unrhyw sboilers ond mae o’n mynd i fod yn ffrwydriad o liw a sain - a thân! Ond y cwestiwn mawr ydi, lle fyddi di pan mae’r haul yn codi?
Ryan Hughes, un o’r perfformwyr ifanc.
Mwy o fanylion
Popeth ar y Ddaear
Mwy