Pecyn Cadeirydd
Chwilio am Gadeirydd newydd i Frân Wen
Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i gefnogi cam nesaf stori Frân Wen.
Eisiau sialens newydd?
Oes gennych chi'r uchelgais a'r angerdd i chwarae rhan allweddol yn siapio ein dyfodol?
Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes profedig mewn uwch arweinyddiaeth, naill ai drwy brofiad gweithredol neu anweithredol.
Bydd y Cadeirydd yn hyderus wrth feithrin perthnasoedd ar lefel uwch gyda rhanddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol, a bydd ganddynt arddull gynhwysol sy'n dod ag ystod eang o ymddiriedolwyr a chydweithwyr ynghyd.
Nid yw'r Cadeirydd yn derbyn tâl gan mai swydd sy'n cael ei chyflawni'n wirfoddol yw hon. Fodd bynnag, gall y Cadeirydd hawlio treuliau rhesymol wrth gyflawni busnes yr elusen.
Mae ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol yn ogystal â pharodrwydd i gynnal pwrpas a gwerthoedd Frân Wen. Yn anad dim, mae Frân Wen yn sefydliad deinamig, uchelgeisiol a chadarnhaol.
Mae’r amgylchedd rydym yn gweithio ynddi yn gynyddol heriol, ond rydym yn gyffrous am y dyfodol ac yn chwilio am unigolyn deinamig, strategol a beiddgar i gefnogi cam nesaf stori Frân Wen.
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad cau: 10 Chwefror 2025
Cychwyn: Mor fuan â phosib wedi’r penodiad.
-------------
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol mae croeso i chi gysylltu â Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen drwy nia@franwen.com.