IMG 1389
22.07.21

Bywyd newydd i’r organ

Diweddariad ar ein her i greu bywyd newydd i'r hen organ yn Nyth.

Yn dilyn cam datblygu trylwyr, yn anffodus daeth i'r amlwg ei bod yn amhosib i ni gadw’r organ yn ein hwb creadigol newydd i bobl ifanc ym Mangor.

Ar ôl i ni gydnabod hyn, fe wnaethon ni estyn allan at wneuthurwyr gwreiddiol yr organ i'n helpu ni i ddod o hyd i gartref newydd.

Adeiladwyd yr organ ym 1899 gan Nicholson & Co.

Gyda’u cymorth sefydlwyd apêl, a chawsom ein rhoi mewn cysylltiad ag Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr yn Abermaw oedd gyda diddordeb yn yr organ. Ni chawsom unrhyw gynigion mynegi diddordeb ymarferol arall.

Mae ganddynt offeryn sydd bron yn union yr un fath, wedi'i hadeiladu gan yr un gwneuthurwyr yn yr un cyfnod, ond mae angen ei thrwsio a'i hadfer yn y dyfodol agos felly byddan nhw'n gallu rhoi bywyd newydd i’r offeryn diolch i'n horgan.

Rydym yn cydnabod mai cadw ac adfer yr organ yn gyflawn o fewn yr adeilad fyddai wedi bod yr opsiwn gorau ond, yn dilyn proses datblygu trylwyr, profodd hyn yn amhosib. Rydyn ni wrth ein boddau gallu rhoi defnydd newydd i’r offeryn ac mae'n golygu ein bod ni'n dod ag organ arall yn ôl yn fyw ac yn ogsoi sefyllfa o ddau offeryn hanesyddol allan o ddefnydd yn y sir.

Rydym yn cadw ffasâd yr organ wreiddiol oherwydd ein bod yn awyddus i ddathlu rhinweddau gwreiddiol yr adeilad. Bydd yn cael bywyd newydd fel rhan o osodiad celf sain arloesol a fydd yn ffordd hygyrch o dywys pobl o amgylch Nyth.