Betsan barod am y laffs
Betsan Ceiriog i gamu ar lwyfan proffesiynol am y tro cyntaf.
Bydd Betsan Ceiriog yn perfformio ar lwyfan theatr byw am y tro cyntaf mewn dramedi newydd am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun.
Wedi ei ‘sgwennu gan Mared Llywelyn a’i gyfarwyddo gan Rhian Blythe, bydd Croendena yn agor yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar 2ail Chwefror flwyddyn nesaf.
HAF LLAWN PARTIS
Bydd Ceiriog yn chwarae’r prif gymeriad Nel yn y ddramedi Gymraeg newydd am ferch ifanc sy’n paratoi am haf llawn partis, perthnasau a phosibiliadau yng nghefn gwlad Cymru.
Yn dilyn y rhediad agoriadol ym Mhwllheli, bydd y ddrama yn teithio ar draws Cymru am gyfnod o 3 wythnos.
GWYNEB CYFARWYDD
Mae Betsan, sy’n wyneb cyfarwydd i Frân Wen gan iddi fod yn rhan mewn un o’u cynyrchiadau ieuenctid nôl yn 2014, yn edrych ymlaen at gamu ar lwyfan proffesiynol am y tro cyntaf:
“Yn naturiol dwi’n nerfus ond dwi methu disgwyl,” meddai’r actor o Gaeathro ger Caernarfon oedd yn chwarae rhan Bobi yn y comedi Rybish ar S4C.
“Bydd pobol yn gallu uniaethu â stori’r prif gymeriad – rydyn ni i gyd yn nabod Nel! Dydi tyfu i fyny ddim mor hawdd ag hynny ac mae sgript Mared yn delio â’r cymhlethdodau yma mewn ffordd hynod o ddoniol.
“Yng nghysgod ei hansicrwydd a delio gyda galar, mae hi’n cael ei barnu’n gyson a’i thrin fel baw.
“Ond nid stori sob yw hon! Dyma ddathliad o ferch ifanc wydn sy’n trio dod o hyd i’w lle yn y byd. Ac mae’n llawn laffs!"
MAE CROENDENA YN TEITHIO RHWNG 02 - 21 CHWEEFROR 2022
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli 2 - 4 Chwefror
- Theatr Fach, Llangefni 6 - 7 Chwefror
- Theatr Derek Williams, Y Bala 8 Chwefror
- Pontio, Bangor 9 - 10 Chwefror
- Theatr Twm O'r Nant, Dinbych 11 Chwefror
- Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 14 Chwefror
- Theatr y Sherman, Caerdydd 16 - 17 Chwefror
- Galeri, Caernarfon 20 - 21 Chwefror