Pay Dd6
01.04.20

120960

13 - 18 oed? Ysu am allbwn creadigol i'r byd boncyrs yma ‘da ni'n byw ynddo? 2 awr yr wythnos i'w sbario dros y 12 wythnos nesaf?120960 munud yn ôl, cadarnhawyd achos cyntaf y coronafirws. Mewn 120960 munud arall bydd Cwmni Ifanc Frân Wen yn archwilio a rhannu beth ddiawl mae'n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Nghymru mewn ‘lockdown’.Gan weithio gyda'r actor a'r awdur Hanna Jarman, y cyfarwyddwr fideo Nico Dafydd a Gethin a Mari o Frân Wen, byddwch chi'n ymuno â 30 o bobl ifanc eraill i greu a chyflwyno gwaith newydd cyffrous yn ddigidol sy'n adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo.Dim ots beth yw eich sgiliau a'ch diddordebau. Mi fyddwn ni'n cael ‘chydig o hwyl ac yn gweithio'n galed, ond byddwn hefyd yn creu rhywbeth arbennig iawn.Cofrestrwch yma.
Llun: Annie Spratt