Sioe am bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia.
Mae Guto yn caru treulio amser gyda’i Nain. Trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffôr a thylwyth teg yn troi plant yn selsig! Ond mae’r antur fwyaf eto i ddod…
Darlun gonest o bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia. 7 neu 70 oed - dim ots! Dyma sioe i’r teulu oll.
Gwyliwch eitem Heno am y sioe.
Cyd-gynhyrchiad efo Galeri, Caernarfon. Noddir gan Academi Gofal Cymdeithasol Pendine.
Pecyn Dysgwyr Wy Chips a Nain
Pecyn Creadigol Wy Chips a Nain
Cast: Gwenno Hodgkins a Iwan Garmon
Dramodydd: Gwyneth Glyn
Cyfarwyddwr: Iola Ynyr
Cynllunydd set: Gwyn Eiddior
Cynllunydd gwisgoedd: Lois Prys