Sigl Di Gwt Baner

Sigl Di Gwt

Cynhyrchiad theatr roedd yn edrych ar agweddau pobl ifanc tuag at ffoaduriaid. Teithiodd i ysgolion Gogledd Orllewin Cymru yn 2017.

Wedi ei enwi ar ôl yr aderyn sydd wastad yn clwydo mewn un haid fawr, roedd Sigl Di Gwt yn tynnu sylw at hanesion pobl sy'n gorfod dianc eu gwledydd brodorol am loches.

Roedd y stori yn dilyn taith drasig teulu wrth iddynt geisio dianc o'u cartref, roedd dan gysgod rhyfel ffyrnig, er mwyn dod o hyd i loches yn Ewrop a gwella eu bywydau.

Cast: Melangell Dolma, Mirain Fflur, Iwan Charles a Gethin Griffiths
Cyfarwyddwr:
Iola Ynyr
Cyfansoddwr:
Gethin Griffths