Sbri3 Baner

Sbri 3

Sioe gerdd gan Gwmni Ifanc Frân Wen

Yn dilyn llwyddiant Sbri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 a Sbri 2 yn Galeri yn 2014, dychwelodd y criw ifanc am y tro olaf i lwyfan Galeri (19 a 20 Rhagfyr 2016) gyda Sbri 3.

Wedi ei leoli mewn ysgol uwchradd ffuglennol, roedd y sioe yn frith o ganeuon Cymraeg poblogaidd gan fandiau megis Candelas, Bandana, Geraint Jarman, Caryl Parry Jones, Y Cyrff, Yws Gwynedd a Gwenno.

Yn y stori roedd criw o bobl ifanc yn ceisio trefnu parti gora'r flwyddyn - ond roedd un problem! Roedd y criw wedi’u diarddel o bob lleoliad gwerth chweil yn yr ardal.

Awdur: Beth Angell
Cyfarwyddwyr: Iola Ynyr, Gwennan Mair Jones a Mirain Fflur
Cyfarwyddwr Cerdd: Gethin Griffiths
Cynllunydd Set: Gwyn Eiddor
Coreograffi: Kim Noble

Sbri31
Sbri32
Sbri33
Sbri34
Sbri35
Sbri36
Sbri37
Sbri38
Sbri39
Sbri310
Sbri311
Sbri312
Sbri313
Sbri314
Sbri315
Sbri316
Sbri317
Sbri318
Sbri319
Sbri320
Sbri321
Sbri322