Yr enwogrwydd a’r unigrwydd o berson ifanc sy’n byw gyda chancr
O’dd o’n mynd i fod yn epic!
O’n i’n ferch 18 oed cyffredin.
Stres Lefel A
tu cefn i mi.
O’n i’n barod am haf llawn rosé cyn
cychwyn gradd nyrsio.
Yna bang! Dim ‘duty free’, pis -yp a lliw haul i fi.
Blwyddyn mwya shit eto!
Yn seiliedig ar flog didwyll Megan Davies, dyma ddrama creulon o onest, llawn hiwmor tywyll am yr enwogrwydd a’r unigrwydd o fod yn berson ifanc sy’n byw gyda chancr.
Teithiodd theatrau Cymru rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2018.
Cast: Mirain Fflur, Catrin Mara, Ceri Elen
Awdur: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Iola Ynyr
Ymgynghorwyr cynnwys: Megan Davies + Gwenllian Ellis
Cynllunydd set a gwisgoedd: Angharad Gwyn
Cynllunydd goleuo: Ceri James
Cerddoriaeth: Ifan Sion Davies
Cynllunydd taflunio: Jason Phillips