Drama absẃrd sy’n cwestiynnu hanfod bywyd
Drama Gymraeg rymus gan Llyr Titus gyda Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins.
O’r cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn i eiliadau o chwerthin a hiwmor - drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau gymeriad sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.
Pecyn Creadigol Drych
Cast: Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins
Dramodydd: Llyr Titus
Cyfarwyddwr: Ffion Haf
Cynllunydd set a gwisgoedd: Gwyn Eiddior
Cyfansoddwr: Osian Gwynedd