Mae gwella'n beth blêr
Drama cignoeth a dirdynnol sy’n dilyn taith Glenda, dynes sy’n byw gydag iselder difrifol, wrth iddi frwydro i ymdopi â salwch anweledig.
Dilynwn ornest bersonol Glenda wrth iddi brofi gwellhad a mentro i fywyd tu hwnt i’r ysbyty. Sut mae Glenda, ei theulu a’i ffrindiau yn ymdopi â realiti’r gwellhad? Oes goleuni ym mhen draw’r twnnel?
Dyma benllanw cyfres Anweledig sydd wedi ei ysbrydoli gan gofnodion meddygol yr hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych yng Ngogledd Cymru.
Cynhelir y cynhyrchiad yn Pontio Bangor (19 – 22 Chwefror), Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth (5 – 8 Mawrth), Theatr Y Sherman Caerdydd (12 – 13 Mawrth), Ffwrnes Llanelli (18 – 21 Mawrth) a Stiwt, Rhosllannerchrugog (26 – 27 Mawrth).
Cast: Ffion Dafis
Dramodydd: Aled Jones-Williams
Cyfarwyddwr: Sara Lloyd