Croendena Sgript

Sgript: Croendena

£8.00
P&P: £1.70


Cyhoeddir Croendena, y gyntaf yn y gyfres Sgriptiau Stampus sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes cyfrwng Cymraeg, ar y cyd gyda Cyhoeddiadau'r Stamp.

Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela, a ffymbls maes parcio’r National Trust.

Mae’r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Mae’r fonoddrama hon yn dilyn hanes Nel, merch 17 oed, wrth iddi geisio wynebu’r pethau hyn oll.

Gyda ffotograffau o’r cynhyrchiad gwreiddiol gan Kristina Banholzer, a rhagair newydd gan y dramodydd.

Sgriptiau Stampus 01: Croendena
Mared Llywelyn / Cyhoeddiadau’r Stamp & Frân Wen 2023
ISBN 978-1-8381989-7-8 / 68t.