Ffenomenon ôl-apocalyptaidd Manon Steffan Ros yn cael ei thrawsnewid i’r llwyfan.
Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym.
Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi digwyddiad a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.
Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw.
Mae Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.
Mae’r gyfrol wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi yn 2018. Ychydig dros wythnos ar ôl iddo ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi, ac aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019.
Actorion: Tara Bethan, Eben James, Llŷr Edwards, Leah Gaffey a Cêt Haf.
Dramodydd: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Coreograffydd: Matt Gough
Cerddoriaeth: R. Seiliog
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Cynllunydd film: Edie Morris
Cynllunydd goleuo: Ceri James
Dramaturg: Gethin Evans
Cynllunydd Pypedwaith: Olivia Racionzer