Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!
Noson allan. Cyfarfod rhywun ar hap. Ond dyma stori gariad sydd ar ben cyn iddi gychwyn.
Mae Greta allan hefo’i ffrindiau pan mae’n cyfarfod y Faust digywilydd. Pan mae grymoedd tywyll ar waith, mae ´chydig o fflyrtio diniwed yn gychwyn ar siwrne ddinistriol ddi-droi’n-ôl.
Mae Faust + Greta yn stori gariad drasig sy’n dod â’r clasur Almaeneg yn fyw o’r newydd mewn gweledigaeth feiddgar o’r Gymru gyfoes. Wedi’i ddyfeisio a’i berfformio gan ensemble o bobl ifanc wrth ddod allan o’r cyfnod clo, mae’r cynhyrchiad theatr digidol hwn yn ymdrin â’r obsesiwn dynol gyda’r angen cyson am fwy, bod â’r llaw uchaf, a gwthio’r ffiniau i’r eithaf.
Wedi’i ysbrydoli gan drosiad Cymraeg T. Gwynn Jones o waith gwreiddiol Goethe, bydd Faust + Greta yn cofleidio’r cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol i gynnig profiad theatr o fath newydd sy’n arbrofol ac yn annisgwyl.
Wedi’i lwyfannu mewn theatr wag, mae byd twyll a thwyllodrus, a phrofiadau newydd, yn aros amdanoch. Pa mor bell allwn ni eich temtio?
“Roedd yn gampwaith.”Buzz Magazine
“Byddwn yn erfyn ar unrhyw un i’w wylio.”Barn Magazine