Darganfod y storis cudd am eich strydoedd chi.
Teithiau tywys gyda’r nos i brofi Nefyn a’r Bala drwy lygaid pobl ifanc.
Yn wledd o gelf, cerddoriaeth a ffilm, ymunwch â ni ar antur llawn o’r annisgwyl.
Mae’r teithiau yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau annisgwyl sy’n dod â lleisiau’r bobl ifanc yn fyw. Gwyliwch allan am graffiti sialc dros dro sy’n herio lle mae pŵer mewn cymdeithas, portreadau o bobl ifanc mewn mannau annisgwyl a digwyddiad gwib-gwrdd rhwng pobl ifanc a’r gymuned ehangach.
Wedi ei leoli ar strydoedd cudd Nefyn a’r Bala, mae’r profiadau wedi eu greu gan y bobl ifanc mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Theatr Derek Williams, gyda chefnogaeth gan Gwynedd Greadigol.