Pay Dd6
14.03.19

Yr M4 yn galw

Mae'r lori wedi ei phacio ac yn paratoi am y daith fyny'r M4 ar gyfer 4 perfformiad yn Llanelli wythnos nesaf.Hoffwn ddiolch i bawb am yr ymateb hyd yn hyn - nid yw cynhyrchiad yn gyflawn heb ymateb cynulleidfa. Mae wedi bod yn bleser darllen yr holl negeseuon gan bawb sydd wedi gweld Anweledig.Screen Shot 2019-03-14 at 09.42.38Screen Shot 2019-03-14 at 09.42.56Screen Shot 2019-03-14 at 09.43.07Mae'r ymateb ar Facebook, Twitter a Insta wedi bod yn anhygoel. Yn ychwanegol i hyn, mae'r llythyrau a'r ymweliadau gan aelodau'r gynulleidfa yn dystiolaeth fod y cynhyrchiad wedi cyffwrdd ystod eang o bobl o bob cefndir.Mae'n amlwg bod geiriau gwefreiddiol Aled Jones Williams a pherfformiad ysgubol Ffion Dafis yn gyfuniad perffaith.Screen Shot 2019-03-14 at 09.43.57Screen Shot 2019-03-14 at 09.44.18Screen Shot 2019-03-14 at 09.45.00Peidiwch â cholli'r cyfle i brofi gwefr Anweledig.Ffwrnes, Llanelli 18 - 21 MawrthStiwt, Rhosllannerchrugog 26 & 27 Mawrth