Ymunwch â ni
**SWYDD**
MENTOR ARLOESEDD CREADIGOL
£22k - £28k
Dyddiad cau: 12.00, Dydd Llun, 24 Ebrill 2017Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, deinamig ac ysbrydoledig i ymuno â thîm Frân Wen yn ystod cyfnod mwyaf cyffrous yn ei hanes.Dyma gyfle i wneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynllunio a gweithredu rhaglen gyfranogol ffyniannus i bobl ifanc.Bydd y Mentor Arloesedd Creadigol yn ysbrydoli pobl ifanc gan eu cymell i gredu bod unrhywbeth yn bosib drwy fod yn greadigol.
"Mae'r swydd hon yn elfennol i lwyddiant Frân Wen wrth iddynt gynnwys pobl ifanc yn eu gwaith. Heb y mentor, ni fyddem yn ymwneud hanner cymaint â theatr, nac mor ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas yn y byd."Dyna pam mae'n hanfodol fod y mentor yn gallu ffurfio perthynas gyfeillgar, agos gyda ni'r bobl ifanc, yn gallu ein hannog i ddarganfod yr hyn rydym am ei ddweud a'n cyffroi dros y cyfrwng creadigol o fynegi hynny""Rhaid i'r ymgeisydd fod yn ffrind, athro ac ysgogwr i ni bobl ifanc felly bu i ni ddewis enwi'r swydd yn "mentor" gan dyna'n union rydym ei angen, mentor."Panel Pobl Ifanc Frân WenPECYN SWYDD: Lawrlwytho pecyn swydd (PDF) FFURFLEN GAIS: Lawrlwytho ffurflen gais (Word) EBOST: nia@franwen.com FFÔN: 01248 715048