Meddwlgarwch
10.05.21

Y pethau bach dydd i ddydd

A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (10-16 Mai), rydyn ni’n edrych yn ôl ar ein cyfres Instagram o dips a thrics meddwlgarwch ymarferol i bobl ifanc a ranwyd gennym yn ddiweddar.

Roedd yr ymgyrch, a gefnogwyd gan Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, yn ymateb yn uniongyrchol i sgyrsiau a gafwyd gyda aelodau Cwmni Ifanc Frân Wen yn ystod cyfnod COVID - trafod gorfeddwl, y ffyrdd confensiynol o ymdopi hefo straen bywyd a datblygu ffyrdd mwy ymarferol a hygrych o wneud hynny. Y tips 'go-iawn' mae pobl yn eu defnyddio.

Roedd Instagram yn cynnig ei hun fel y sianel berffaith i'r deunydd - sut ti'n gwneud pynciau sydd yn gallu bod yn heriol i'w trafod yn hygyrch, a sut ti'n gwneud meddwlgarwch yn rhan o fywyd bob dydd yn hytrach na gweithred gymhleth.

Sophie Ann oedd yn gyfrifol am gydlynu'r wythnos. Yn rhan o dîm meddwl.org ac yn un sy'n diddori mewn iechyd meddwl a lles, mae Sophie wrthi'n gwneud gwaith ymchwil i'r maes fel ran o gwrs MA.

"Weithiau, wrth feddwl am feddwlgarwch mae 'na dueddiad i feddwl am yoga, ymwybyddiaeth ofalgar, darllen llyfrau cymorth ac ati. A thra fod yr holl bethau hynny'n medru bod yn fuddiol iawn dwi'n meddwl fod meddwlgarwch llawer mwy na hynny ac yn gallu digwydd bron heb i rywun sylwi neu ymdrechu i'w ymarfer.

"Felly o'n i eisiau archwilio'r pethau fwy 'dydd i ddydd' fedrwn ni drio sylwi arnynt a'u mwynhau fwy, gan gydnabod yr effaith positif mae rhoi amser i'n diddordebau naturiol yn ei gael arno' ni."

Roedd Sophie yn awyddus i apelio i'r bobl ifanc sydd ddim o reidrwydd yn mwynhau neu'n diddori mewn gweithgareddau fel yoga ac roedd hi eisiau eu hannog i ddarganfod y pethau bach naturiol yn eu bywydau gall fod o fudd.

Canolbwyntiwyd ar themâu gwahanol bob dydd er mwyn rhoi strwythur i'r cynnwys.

PLANHIGION

"Dwi'n ymwybodol fod gofalu am blanhigion ac ati yn dod fwyfwy poblogaidd ac felly wnes i ddewis Adam (@adamynyrardd) a Naomi Saunders (@naomigrows) i drafod sut mae tyfu ac arbrofi efo planhigion yn rhoi cyfle iddyn nhw arafu, bod yn bresennol yn y foment, a dysgu sut i ddelio efo methiant hefyd weithia.

"Mae'r ddau mor frwd am y diddordeb yma sydd ganddyn nhw felly o'n i'n gwybod yn syth mod i eisiau eu cynnwys."

CELF AML-GYFRWNG

"Ar gyfer y diwrnod lle o'n i'n hybu creadigrwydd mi wnes i ofyn i Anna Gwenllian gymryd rhan drwy ddarparu timelapse o olygfa lleol iddi. Un o'r prif resymau dros ddewis Anna oedd am ei bod hi'n gweithio'n aml-gyfrwng ac yn defnyddio bob math o bethau wrth wneud lluniau, gan gynnwys highlighters, pensiliau lliw, pen, paent.

"O'n i'n teimlo felly bo' hynny'n gwneud y weithgaredd fwy hygyrch rywsut, nid bawb sydd gan baent ond dwi'n siŵr fod mwy neu lai pawb yn gallu dod o hyd i highlighter!"

IECHYD DIGIDOL

"Yr eithriad o ran natur y themâu oedd iechyd digidol, achos mewn ffordd nid bwriad y diwrnod yma oedd canolbwyntio cymaint ar 'weithgaredd' sy'n hybu meddwlgarwch, ond yn hytrach ar osgoi habits sydd yn cael effaith negyddol.

"Roedd o'n hanfodol fod y cyngor oedd yn cael ei ddarparu yn arbenigol felly mi wnaeth Erin (@mentalhealthcoach) gydlynnu'r diwrnod. Iechyd digidol yw un o'r prif heriau mae Erin yn dod ar ei draws wrth siarad efo bobl ifanc wrth ei gwaith.

CWMNI IFANC FRÂN WEN YN AIL-HAWLIO

"O'n i wir eisiau i Gwmni Ifanc Frân Wen deimlo perchnogaeth dros y prosiect felly, yn ogystal â gofyn iddyn nhw am awgrymiadau ar gyfer yr wythnos, mi wnaeth Cwmni Ifanc Frân Wen arwain ar y diwrnod olaf. Dwi'n ofnadwy o falch achos mi roedd cyfraniad y bobl ifanc yn wirioneddol wych."

"Wrth edrych yn ôl rydyn ni'n gobeithio fod na sylweddoliad bod neb arall yn gallu diffinio beth yw meddwlgarwch i unrhyw unigolyn a'i fod o'n gallu bod yn unrhyw beth ac yn hwyl."

*Mae'r cynnwys ar gael ar highlights ein Instagram felly cofiwch ailymweld unrhyw adeg rydych chi'n teimlo'r angen.*